jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

gan E. Wyn James

Ann Griffiths yw un o ffigurau amlycaf ein bywyd diwylliannol. Hi yw un o feirdd mwyaf Cymru, a’r ferch enwocaf i ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg. Tyfodd yn eicon cenedlaethol. Bu mwy o ganu ar ei hemyn ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ nag odid yr un emyn Cymraeg arall. Ysgrifennwyd yn helaeth am ei bywyd a’i gwaith, a bu’n destun nofelau, dramâu, a cherddi di-rif. Ar ben hynny, yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd sylw cynyddol yn rhyngwladol. Cyfieithwyd ei gwaith droeon i’r Saesneg, ac y mae sawl awdurdod ym myd ysbrydoledd ac emynyddiaeth wedi dadlau ei bod yn ffigur o arwyddocâd rhyngwladol yn y meysydd hynny, a bod ei hemynau i’w gosod ymhlith cerddi mawr barddoniaeth grefyddol Ewrop.

Mae hyn oll yn gwrthgyferbynnu’n drawiadol â’i dinodedd a’i diffyg amlygrwydd, y tu allan i gylch eithaf cyfyng, yn ystod ei bywyd. Gellir crynhoi prif ffeithiau ei bywyd i ychydig frawddegau. Fe’i ganed yn ‘Ann Thomas’ yng ngwanwyn 1776 yn hen ffermdy unllawr Dolwar Fach, ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, sir Drefaldwyn, tua phum milltir o dref farchnad Llanfyllin. Yn dechnegol yr oedd yr ardal lle ganed Ann yn rhan o blwyf Llanfechain, a oedd tua wyth milltir i’r dwyrain; ond trwy hen drefniant cyfrifid trigolion ei hardal yn blwyfolion plwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa i bob pwrpas, ac yn Eglwys Llanfihangel y bedyddiwyd Ann ar 21 Ebrill 1776. Daeth yn feistres Dolwar yn 17 mlwydd oed, yn dilyn marwolaeth ei mam yn Ionawr 1794. Bu farw ei thad ymhen deng mlynedd wedyn, yn Chwefror 1804. Priododd un o’i chyfoedion o’r plwyf nesaf, Thomas Griffiths, yn Hydref 1804 – a dyna paham y galwn ni hi’n ‘Ann Griffiths’, er mai fel ‘Nansi Thomas’ y byddai’n cael ei hadnabod yn gyffredinol gan ei chydnabod yn ystod ei bywyd. Yna, ymhen deng mis, yn Awst 1805, bu farw’n 29 oed, yn sgil geni merch fach, Elizabeth (a aned ar 13 Gorffennaf ac a gladdwyd ar 31 Gorffennaf, bythefnos o flaen ei mam).

Dolwar Fach

Dolwar Fach
(Llun: R. Brian Higham)
Codwyd y tŷ presennol ar ôl dyddiau Ann Griffiths. Tŷ hir, unllawr, to gwellt oedd yr hen ffermdy.

Treuliodd Ann ei holl fywyd yn byw yn yr un ffermdy mewn plwyf gwledig yng ngogledd sir Drefaldwyn, ac fe’i claddwyd o fewn tafliad carreg i’r ffermdy hwnnw, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, yr eglwys lle y’i bedyddiwyd yn blentyn a lle y’i priodwyd. Ond mae’r braslun moel hwnnw’n cuddio llawer o’r cynnwrf a’r cyffro a’r cyfoeth a nodweddai ei bywyd; oherwydd fel y nododd y Canon A. M. Allchin ar fwy nag un achlysur, nid amhriodol ar sawl ystyr fyddai cymhwyso i Ann Griffiths eiriau Waldo Williams:

Beth yw byw? Cael neuadd fawr
Rhwng cyfyng furiau.


Oes o drawsnewid
Roedd oes Ann Griffiths, chwarter olaf y ddeunawfed ganrif, yn gyfnod o drawsnewid mawr, yn amaethyddol, yn ddiwydiannol, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol ac yn grefyddol. Roedd yn gyfnod o ddeffro mawr. Dyma gyfnod y Chwyldro Ffrengig a’r rhyfela â Ffrainc a gododd yn sgil hynny. Roedd Ann yn 13 blwydd oed adeg y Chwyldro Ffrengig yn 1789, a bu Prydain a Ffrainc yn rhyfela’n ddi-baid am bron y cyfan o’i hoes fel oedolyn. Roedd un o gefnogwyr selog y Chwyldro a’i egwyddorion radicalaidd, William Jones (1726-95), yn byw yn Llangadfan, nid nepell o gartref Ann. Roedd yn Gymro pybyr a fwriadai ar un adeg sefydlu gwladfa Gymraeg yn America, ac yr oedd yn gymaint gefnogwr i egwyddorion radicalaidd nes i’r Llywodraeth drefnu i’w hysbïwyr agor ei lythyrau. Symudai Ann Griffiths mewn cylchoedd llai radicalaidd yn wleidyddol; ond yr oedd y rhyfela â Ffrainc yn fater a bwysai’n drwm arni hi hefyd, fel y gwelwn o’r ffaith y byddai’n mynychu’n ffyddlon gyfarfodydd gweddi yn achos y rhyfel hwnnw. Ac y mae hyn oll yn tanlinellu’r ffaith nad ardal anghysbell a digynnwrf mo ardal Ann Griffiths, er ei bod yn ardal wledig.

Map o Gymru
Map o Gymru yn dangos lleoliad Dolwar Fach
(Christine James)

Mae Dr Enid Roberts wedi pwysleisio nad ardal ddiarffordd mohoni yng nghyfnod Ann. Erbyn ei chyfnod hi yr oedd gwasanaethau coits fawr rheolaidd o Lundain i Gaergybi, o Gaer i Gaerdydd, o Amwythig i’r Bala, ac o Gaer i Aberystwyth, oll yn pasio’n eithaf agos i’w chartref. ‘Mewn gwirionedd,’ meddai Dr Roberts, ‘yr oedd mwy o gyfleusterau teithio i’r cyhoedd nag sydd heddiw.’ Roedd ardal Ann Griffiths, felly, yn un bur agored i ddylanwadau o bob math, a gwelwn holl elfennau deffro mawr y ddeunawfed ganrif, yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn grefyddol, yn effeithio ar Ann Griffiths, ei theulu a’i hardal i ryw raddau neu’i gilydd

Gwlad Ann Griffiths
Gwlad Ann Griffiths
(Christine James)

Teulu Ann
Ganed Ann Griffiths i deulu eithaf cysurus ei amgylchiadau, teulu o ffermwyr a oedd yn flaenllaw yn y gymuned leol. Roedd gwreiddiau teuluaidd ei thad, John Evan Thomas, yn ddwfn ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Ganed mam Ann, Jane Theodore, yn yr un plwyf, ac roedd gwreiddiau ei theulu hithau yn ddwfn yng ngogledd sir Drefaldwyn. Pan briododd y ddau yn Chwefror 1767, aeth John Evan Thomas â’i briodferch i fyw i fferm ei rieni, Tŷ Mawr Dolwar, ac yno y ganed eu dau blentyn cyntaf, Jane yn 1767 a John yn 1769. Yn 1770 symudodd y teulu i Ddolwar Fach, ac yno y ganed eu tri phlentyn arall, Elizabeth yn 1772, Ann yn 1776, ac Edward yn 1779.

Y darlun a gawn o aelwyd Dolwar Fach yw un o deulu agos a chroesawgar, teulu a oedd yn boblogaidd yn y cylch ac yn amlwg ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal. Yn ôl pob sôn, yr oedd John Evan Thomas yn ŵr pwyllog, hynaws a diwyd, ac yn uchel ei barch yn y gymdogaeth. Medrai ddarllen ac ysgrifennu, a bu droeon yn un o Wardeiniaid yr Eglwys ac yn un o Oruchwylwyr y Tlodion, swyddi o bwys ym mywyd y gymuned leol yn y cyfnod hwnnw. Ychydig iawn a wyddom am ei wraig, Jane Theodore, ond ymddengys ei bod yn perthyn i rai o deuluoedd cefnog yr ardal.


Brodyr a chwiorydd Ann
Gweithio gartref ar y fferm fu hanes John, y mab hynaf, ar hyd ei fywyd. Arhosodd yn ddibriod. Bu farw tua deunaw mis ar ôl ei chwaer Ann, a’i gladdu yn Ionawr 1807 ym mynwent Eglwys Llanfihangel.

Gweithio gartref fu hanes y mab arall, Edward, hefyd hyd 1801. Priododd yn 1798, a daeth ei wraig, Elizabeth Savage, i fyw i Ddolwar Fach. Yng ngwanwyn 1801, symudodd Edward ac Elizabeth i’w fferm fechan eu hunain ychydig filltiroedd i ffwrdd ym mhlwyf Llangynyw, gan fynd â’u mab bach, John (a aned yn Hydref 1799) gyda nhw – ac mae’n werth cofio fod bachgen bach ar yr aelwyd yn Nolwar Fach rhwng Hydref 1799 a gwanwyn 1801, a’i fodryb Ann yn cynorthwyo i’w fagu. Dedfrydwyd Edward Thomas i flwyddyn o garchar yn 1819 am iddo ladd ffermwr arall mewn ffrae. Erbyn hynny roedd ei deulu wedi symud i gymoedd diwydiannol Morgannwg, i ardal Merthyr Tudful, ac yno y bu ef farw yn 1852.

Ymddengys i Jane, chwaer hynaf Ann, symud i fyw i Lanfyllin tua 1791. Priododd siopwr o’r dref honno o’r enw Thomas Jones, a fu farw yn 1804. Bu hi’n cadw’r siop wedyn, gan drosglwyddo’r busnes yn ei thro i’w hunig blentyn, John (a aned tua 1793, mae’n debyg). Ailbriododd Jane yn 1807 ag Abraham Jones, un o arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn sir Drefaldwyn. Symudodd i fyw i ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1830, lle y bu farw yn 1851. Bu ei mab, John, yn ffigur amlwg ym mywyd tref Llanfyllin, a bu ef a’i fab yntau yn amlwg hefyd yn yr ymgyrch yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i godi cofgolofn i gofio ei fodryb, Ann, ym mynwent Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Symudodd Elizabeth, ail chwaer Ann, i blwyf Llangadfan yn 1793, pan briododd Thomas Morris, ffermwr o’r plwyf hwnnw. Bu hi fyw tan 1818, gan fagu llond tŷ o blant; ond er mai dim ond tua phum milltir o bellter oedd rhwng ei chartref a Dolwar Fach, ymddengys fod rhyw ddieithrwch wedi codi rhyngddi hi a gweddill y teulu ac mai ychydig o ymwneud a fu rhyngddynt a hi, o leiaf hyd at farwolaeth ei thad.


Meistres Dolwar
Yr oedd dwy chwaer Ann wedi gadael cartref, felly, erbyn marw eu mam yn 1794, gan adael Ann, yn 17 mlwydd oed, yn feistres y tŷ a meistres Dolwar Fach y bu hi o hynny hyd ei marw cynnar. Fel meistres y tŷ, hi a fyddai’n gyfrifol am redeg y cartref a goruchwylio gwaith y forwyn (neu’r morynion, efallai). Hi hefyd a fyddai’n gyfrifol, gyda’r morynion, am drin y llaeth a’r menyn. Byddai’n godro hefyd, mae’n debyg, yn ogystal â chynorthwyo gyda goruchwylion eraill y fferm yn ôl y galw. A byddai un gorchwyl arall yn syrthio i’w rhan yn gyson, sef trin gwlân. Sir Drefaldwyn oedd un o brif ganolfannau’r diwydiant gwlân yng Nghymru yn y cyfnod. Byddai llawer o ffermwyr y sir yn nyddu er mwyn ychwanegu at eu hincwm, ac adeg marw Ann yr oedd gwŷdd, pum tröell a thua phedwar ugain o ddefaid yn Nolwar Fach.


Proffil personol
A barnu oddi wrth y disgrifiadau o Ann sydd ar gael, gallwn gasglu ei bod yn ferch dalach na’r cyffredin ac yn eithaf mawreddog yr olwg, er yn berson addfwyn o ddod i’w hadnabod. Roedd ganddi wallt hir, tywyll, talcen uchel a thrwyn ychydig yn fwaog. Un lled welw ei gwedd ydoedd, a chanddi fochau gwridog a llygaid disglair.

Nid oes llun ohoni ar gael. Llun o’r cerflun o’i phen yng Nghapel Coffadwriaethol Ann Griffiths yn Nolanog sydd ar dudalen gartref y wefan hon; ond delw ddychmygol ydyw, wedi’i seilio ar ddisgrifiadau ohoni. Dywedir bod ei nai, John Jones, Llanfyllin, yn debyg iawn iddi. Mae cysgodlun (silhouette) ohono ef ar gael. Fe’i hatgynhyrchir, ynghyd â lluniau o’i blant ef a rhai eraill o’r teulu agos, yn llyfr David Thomas, Ann Griffiths a’i Theulu (1963), a rhyngddynt gallwn gael eithaf syniad o sut un fyddai Ann o ran pryd a gwedd.

Margaret Jones John Jones
Cysgodlun o John Jones, Llanfyllin, a llun o'i ferch, Margaret
Roedd John Jones yn nai i Ann Griffiths. Yn ôl y sôn, yr oedd yr un ffunud â hi.

Roedd Ann yn bur eiddil o gorff. Adlewyrchai hynny’r ffaith iddi fod yn bur wan ei hiechyd ar hyd ei bywyd. Byddai mewn gwaeledd yn aml, a dywedir iddi ddioddef dair gwaith o glefyd y cryd cymalau (rheumatic fever) yn ystod ei bywyd. Mae’n bosibl mai dyna fu achos ei marwolaeth, am na allai ei chalon ddal straen geni plentyn oherwydd y niwed a achoswyd i falfiau’r galon gan y clefyd hwnnw. Mae’n bosibl iawn hefyd ei bod yn dioddef o’r darfodedigaeth (tuberculosis) ar y pryd, a bod hynny’n rheswm arall dros ei marwolaeth. Ac mae’n werth nodi mai un o effeithiau’r darfodedigaeth yn aml yw rhoi min ar gyneddfau’r dioddefwr.

Os oedd Ann yn fregus o gorff, yr oedd yn gryf o feddwl a chymeriad. Y darlun a gawn ohoni yw un o ferch fywiog, afieithus, braidd yn fyrbwyll, un ffraeth a direidus wrth natur, un unplyg, fanwl ac angerddol, un serchog a siriol, ac yn arweinydd amlwg ymhlith ei chyfoedion. Roedd yn ferch alluog, a chanddi feddwl treiddgar a chof eithriadol. Er na chafodd lawer o addysg ffurfiol, medrai ddarllen ac ysgrifennu. Roedd wrth ei bodd mewn ffair a gwylmabsant a noson lawen, ac yr oedd yn arbennig o hoff o ddawnsio.


Magwraeth grefyddol
Magwraeth grefyddol a gafodd Ann Griffiths. Yr oedd ei thad yn Eglwyswr cydwybodol a fynychai wasanaethau’r Eglwys yn gyson. Dywedir fod hen gi llwyd yn Nolwar a fyddai’n dilyn ei feistr yn ffyddlon i wasanaeth yr Eglwys yn Llanfihangel ar fore Sul, gan orwedd yn dawel o dan y fainc tan ddiwedd y gwasanaeth; ac arwydd o gysondeb tad Ann yng ngwasanaethau eglwys y plwyf oedd i hynny fynd yn gymaint arferiad gan y ci fel y byddai’n mynd yno bob Sul yn rheolaidd, hyd yn oed pe na bai aelod o’r teulu yn bresennol!

Byddai John Evan Thomas hefyd yn cynnal addoliad hwyr a bore ar yr aelwyd – ‘y ddyletswydd deuluaidd’ fel y’i gelwir – gan ddarllen rhannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn yr addoliad. Daeth Ann yn ifanc iawn, felly, i gydnabyddiaeth â’r Beibl ac â llenyddiaeth grefyddol aruchel; a gwelir dylanwad hyn ar ei hemynau a’i llythyrau maes o law.

Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa
Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa
(Llun: John Thomas)
Codwyd yr eglwys bresennol yn 1862-63.
Mae cofgolofn Ann Griffiths, a godwyd yn 1864, ar y dde.


Carol ac englyn
Er mor agos at y ffin â Lloegr yw ardal Ann Griffiths, yr oedd yn ardal drwyadl Gymraeg, ac yn ardal fywiog ei diwylliant yn ystod ieuenctid Ann, yn enwedig ym myd barddoniaeth. Byddai llawer o adrodd ar englynion a chywyddau. Yr oedd mynd hefyd ar y faled a’r anterliwt, a bu’r anterliwtiwr enwocaf un, Twm o’r Nant, yn byw yn yr ardal am ychydig pan oedd Ann yn ferch fach.

Roedd bri arbennig ar garolau yn yr ardal, carolau haf a charolau plygain yn arbennig. Rhyw fath o bregethau ar gân oedd y carolau plygain, mewn mesurau cymhleth ac yn llawn ymadroddion beiblaidd. Fe’u lluniwyd i’w canu yng ngwasanaeth y plygain yn gynnar ar fore’r Nadolig. Er eu bod yn rhoi sylw i enedigaeth Crist, olrhain yr iachawdwriaeth yng Nghrist o’i dechrau i’w diwedd yw eu prif thema, gan ddechrau yn aml yng Ngardd Eden, a diweddu gydag anogaethau i ffydd ac edifeirwch a gweithredodd da. Yng ngogledd Maldwyn y bu’r traddodiad o gynnal plygeiniau ar ei gryfaf yng Nghymru, ac y mae ffurf ar y traddodiad yn parhau yn yr ardaloedd o gwmpas Llanfihangel-yng-Ngwynfa hyd heddiw.

Yr oedd Ann a’i theulu yng nghanol y bwrlwm diwylliannol hwn. Yn ôl ei chofiannydd, Morris Davies, byddai’r cymdogion yn ymgynnull i Ddolwar Fach i gynnal nosweithiau llawen, lle y byddai canu gyda’r tannau, a dawnsio a chwarae cardiau a dis. Mae Morris Davies yn adrodd hefyd fel y byddai tad Ann yn canu carolau ar yr aelwyd tra byddent wrth eu gwaith yn trin gwlân. Roedd ei thad yn un o nythaid o feirdd lleol, cylch barddol a ffynnai o dan eu hathro lliwgar, Harri Parri (1709?-1800) o Graig-y-gath. Mae rhai o englynion tad Ann wedi goroesi, ac yn ôl pob tystiolaeth, gallai Ann ei hun lunio englyn erbyn ei bod tua deng mlwydd oed. Yng nghasgliad llawysgrifau Cwrt Mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir llawysgrif drwchus o farddoniaeth – ‘Llyfr Dolwar Fach’ – sy’n gymysgedd o waith beirdd lleol a gwaith beirdd mwy adnabyddus. Llawysgrif ydyw a fu’n eiddo am flynyddoedd lawer i Harri Parri, Craig-y-gath, ond tua 1796 aeth i feddiant teulu Dolwar Fach, a chawn Ann yn torri ei henw a’i chyfeiriad ar dudalen yn y llawysgrif yn y flwyddyn honno. A gallwn weld olion y diwylliant barddol hwnnw ar ei gwaith maes o law, yn y cyffyrddiadau cynganeddol a’r ymwybod o gydbwysedd llinell sydd yn ei hemynau, ac yn y paradocsau sy’n rhedeg trwyddynt, sy’n ein hatgoffa o’r paradocsau sy’n nodweddu’r carolau plygain hwythau.


‘Ann y Sais’
Ardal Gymraeg oedd ardal Ann, ond yr oedd hefyd yn ardal y ffin, yn ardal a fu’n agored iawn i groesffrwythloni diwylliannol o bob math ar draws y canrifoedd. Tua’r gorllewin Cymraeg yr oedd y dynfa gymdeithasol a diwylliannol gryfaf, a llawer o droedio’r llwybrau dros fynydd-dir y Berwyn i gyffiniau’r Bala a Dyffryn Clwyd. Ond, tua’r dwyrain, arweiniai’r un llwybrau i sir Amwythig; ac er mor gryf oedd y dynfa gymdeithasol tua’r gorllewin, yr oedd dynfa economaidd gref i gyfeiriad gwastadeddau brasach Lloegr.

Yn un o’i llythyrau defnyddia Ann eglureb sy’n sôn am siopwr yn mynd i Gaer i brynu gwerth £200 o nwyddau i’w gwerthu yn ei siop gartref; ac mae’n ddigon posibl y byddai Ann ei hun wedi cyrchu Caer, ac Amwythig efallai, heb sôn am Groesoswallt, yn gwmni i’w chwaer, Jane, a gadwai siop yn Llanfyllin.

Mae hanes llafurwr o’r enw John Owen, a oedd yn byw ger Dolwar Fach, yn pwysleisio’r cysylltiadau rhwng ardal Ann a’r dwyrain Seisnig. Fel llawer un arall o’r cyffiniau, byddai John Owen yn mynd bob blwyddyn i weithio i’r cynhaeaf yn sir Amwythig. Un tro dychwelodd oddi yno wedi cael gwraig, ‘Ann y Sais’ fel y’i llysenwid gan drigolion Llanfihangel. Yn ôl y sôn, bu Ann Griffiths yn mynychu ysgol ‘Ann y Sais’ am gyfnod, gan ddysgu darllen Saesneg ac ysgrifennu yno. Er na ddaeth hi erioed yn rhugl yn y Saesneg, mae’n ymddangos bod Ann Griffiths yn gallu rhigymu ychydig yn yr iaith honno, ac ysgrifennu ambell lythyr Saesneg, er nad oes unrhyw enghreifftiau wedi goroesi. A diddorol yw gweld Gwenallt yn awgrymu bod peth dylanwad emynau Saesneg ar ei gwaith.


‘Sam y Sais’ a Thomas Charles
Roedd mab ‘Ann y Sais’, Samuel Owen – neu ‘Sam y Sais’ fel y’i gelwid, er ei fod yn Gymro rhugl – yn Fethodist, ac ef a fu’n gyfrifol am gyflwyno Methodistiaeth i deulu Dolwar Fach. Dyma’r mudiad efengylaidd chwyldroadol a ddechreuodd yn ne Cymru yn yr 1730au trwy gyfrwng pobl megis Daniel Rowland, Howel Harris a William Williams o Bantycelyn, ond a oedd erbyn ieuenctid Ann Griffiths yn lledu fwyfwy yn y Gogledd, yn arbennig trwy gyfrwng Thomas Charles (1755-1814), gŵr o’r De – o sir Gaerfyrddin – a ymsefydlodd yn y Bala ynghanol yr 1780au.

O’i bwerdy yn y Bala, ac yn enwedig trwy ei ymgyrchoedd cenhadol ac addysgol (ei ysgolion cylchynol, ac yna ei ysgolion Sul), fe ledodd dylanwad Thomas Charles, a dylanwad Methodistiaeth, ar raddfa eang trwy’r Gogledd, nes i ogledd Cymru fynd yn fwy o gadarnle i Fethodistiaeth na’r De maes o law, er mai yn y De y dechreuodd y mudiad – enghraifft o’r De yn cychwyn a’r Gogledd yn cadw, chwedl W. J. Gruffydd! Ac er y gellid dadlau mai un o ganlyniadau’r dylanwadau o du’r dwyrain oedd dyfodiad Methodistiaeth i deulu Dolwar – hynny yw, o gofio mai ‘Sam y Sais’ oedd yn gyfrifol am gyflwyno Methodistiaeth i’r teulu – mewn gwirionedd rhaid edrych tua’r gorllewin Cymraeg, ac yn enwedig dros fynydd-dir y Berwyn i’r Bala ac at Thomas Charles, i ganfod y dylanwad pennaf ar Ann Griffiths o safbwynt crefyddol.

Methodistiaeth
Mudiad oedd Methodistiaeth a roddai bwylais trwm nid yn unig ar gredoau uniongred Cristnogaeth, ond ar brofiad personol ohonynt, ar deimlo gwirioneddau’r Ffydd. Crefydd o wres yn ogystal ag o oleuni ydoedd, ys dywedodd cofiannydd Ann Griffiths, Morris Davies. Hyd 1811 yr oedd y mudiad Methodistaidd yn swyddogol yn fudiad oddi mewn i Eglwys Loegr yn hytrach nag yn enwad ar wahân. Wedi dweud hynny, rhaid pwysleisio bod y Methodistiaid yn ymddwyn yn gynyddol fel enwad wrth i’r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen, gyda’u harweinwyr eu hunain, eu mannau cyfarfod eu hunain, a’u cyfundrefn annibynnol eu hunain. Byddai aelodau’r mudiad yn cyfarfod mewn cymdeithasau lleol (‘seiadau’) i drin a thrafod eu profiadau ac i dderbyn cymorth a chyngor ar eu taith ysbrydol; yna, ar ben hynny, yr oedd rhwydwaith o gyfarfodydd misol a chymdeithasfaoedd (neu ‘sasiynau’) chwarterol i arolygu’r gwaith.

Roedd sasiynau ar wahân ar gyfer de a gogledd Cymru. Byddai’r sasiynau hyn yn symud o le i le, ond o tua 1760 ymlaen, yn y Bala y cynhelid Sasiwn y Gogledd bob mis Mehefin. Datblygodd Sasiwn y Bala yn uchel ŵyl flynyddol i Fethodistiaid y Gogledd, a’r miloedd yn tyrru yno i’r cyfarfodydd pregethu cyhoeddus. Roedd i bregethu le canolog yn y mudiad Methodistaidd. Yng nghyfnod Ann Griffiths, crwydrai byddin o bregethwyr Methodistaidd ar hyd a lled y wlad yn pregethu o fan i fan, ac yr oedd oedfaon pregethu cyhoeddus yn rhan anhepgor o arlwy y cyfarfodydd misol a’r sasiynau.


Seiat Pontrobert

Ffenomen bur gyffredin yn hanes Cymru yw gweld adfywiad diwylliannol ac adfywiad crefyddol yn cydredeg; a dyna a welwn yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn yr 1790au. Roedd yn gyfnod a welodd fywiogrwydd mawr yno ym myd barddoniaeth, ac yr oedd yn gyfnod hefyd a welodd adfywiad crefyddol grymus, a nifer arwyddocaol o bobl yr ardal yn troi at y Methodistiaid.

Hen Gapel Pontrobert
Hen Gapel Pontrobert
(Llun: R. Brian Higham)

Cafodd Ann a’i theulu eu hysgubo o flaen grym llif yr adfywiad crefyddol hwnnw. Trodd bron pob un ohonynt yn eu tro at y Methodistiaid, a dod yn aelodau amlwg o’r seiat Fethodistaidd a gyfarfyddai yn yr ardal. Lle o’r enw Pen-llys oedd prif fan cyfarfod y seiat am gyfnod, ond yna wrth i’r seiat dyfu symudwyd y brif ganolfan i Bontrobert, am fod yr ardal honno’n fwy poblog a chanolog, a chodwyd capel yno ar gyfer yr achos yn 1800. Ond byddai’r seiat yn cynnal cyfarfodydd mewn mannau eraill hefyd, gan gynnwys Dolwar Fach. Cofrestrwyd Dolwar Fach yn swyddogol fel lle ar gyfer addoliad cyhoeddus yn haf 1803, ond ymddengys fod y Methodistiaid yn cynnal cyfarfodydd pregethu yno o tua 1798 ymlaen, o tua’r adeg yr ymunodd tad Ann â seiat Pontrobert, efallai.


Erlid a gwatwar
Pobl dan wg ac erlid oedd y Methodistiaid a’u crefydd yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn nyddiau Ann. Arhosai trwch y boblogaeth yn ffyddlon i’r Eglwys Wladol, gan ddirmygu a drwgdybio pob Ymneilltuwr, a phob Methodist yn fwyaf arbennig. Fel llawer o’r beirdd gwlad, yr oedd Harri Parri o Graig-y-gath yn wrthwynebus iawn i Ymneilltuaeth a Methodistiaeth, ac arferai ymosod arnynt ar gân. Weithiau byddai’r erlid yn cymryd gwedd gorfforol. Er enghraifft, trawyd y pregethwr Methodist, Edward Watkin o Lanidloes, â charreg nes peri i’r gwaed ddiferu dros ei Feibl, pan geisiodd bregethu yn yr awyr agored yn Llanfyllin yn 1795. Ond y dull mwyaf cyffredin oedd gwatwar, ac yn ôl y sôn byddai Ann yn barod iawn i ddefnyddio ei doniau siarad i watwar y Methodistiaid.

Fel yn achos Harri Parri, yr oedd rhagfarn gref iawn gan deulu Dolwar Fach yn erbyn Ymneilltuaeth a Methodistiaeth; ond fel y nodwyd eisoes, dros ychydig flynyddoedd yn ystod yr 1790au daeth bron pob un ohonynt – John y mab yn gyntaf, ac yna Jane, Edward, Ann, a’u tad, John Evan Thomas – yn Fethodistiaid yn eu tro. Yn y broses, troesant eu cefn ar Eglwys Llanfihangel a throi eu cefn hefyd ar adloniant trwch y plwyfolion, adloniant y ffair a’r wylmabsant a’r noson lawen. Ar aelwyd Dolwar Fach, felly, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gwelwn ddwy grefydd a dau ddiwylliant yn cyfarfod ac yn ymryson, a’r grefydd efengylaidd a’i diwylliant yn cario’r dydd yn y diwedd. Ac yn hynny o beth y mae Dolwar Fach yn feicrocosm o hanes Cymru yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Ann a’r Methodistiaid
Profiadau ysbrydol dwys dros gyfnod o tua blwyddyn, pan oedd rhwng 20 ac 21 mlwydd oed, a barodd i Ann Griffiths ymuno â’r seiat Fethodistaidd leol. Mae sawl traddodiad ynghylch sut a phryd y daeth Ann i glywed y gweinidog Annibynnol, Benjamin Jones o Bwllheli, yn pregethu yn Llanfyllin, ond y tebyg yw mai fel hyn y bu. Un o brif ffeiriau’r flwyddyn yn Llanfyllin oedd y ffair a gynhelid ar y dydd Mercher cyn y Pasg; ond byddai’r rhialtwch a gysylltwn â ffeiriau o’r fath yn ymestyn dros y Pasg ei hun. Ddydd Llun y Pasg 1796, a hithau bron yn 20 oed, aeth Ann i Lanfyllin i ymuno â’r hwyl. Roedd Jenkin Lewis, gweinidog yr Annibynwyr yng nghapel Pen-dref, Llanfyllin, wedi sefydlu cyfres o ‘Gyfarfodydd y Pasg’ i geisio gwrthweithio dylanwad y ffair, ac yn 1796 Benjamin Jones, Pwllheli, oedd y pregethwr gwadd. Trefnwyd cynnal cyfarfod pregethu awyr-agored o flaen y dafarn yng nghanol y dref ar y dydd Llun, ac yn ôl traddodiad, wrth i Ann fynd heibio a chlywed geiriau’r pregethwr, cafodd ei sobreiddio drwyddi.

Capel Pen-dref, Llanfyllin
Capel Pen-dref, Llanfyllin
Un o'r achosion Ymneilltuol hynaf yng Nghymru.
Codwyd yr adeilad presennol yn 1829.

Ar ôl misoedd o anesmwythyd cydwybod ac ymboeni am ei chyflwr ysbrydol, a methu cael ei bodloni yn Eglwys y Plwyf, penderfynodd Ann fod yn rhaid iddi chwilio yn rhywle arall am ateb. Er bod ei dau frawd, a nifer o’i chyfoedion, erbyn hynny wedi mynd trwy brofiadau tebyg ac wedi ymuno â’r seiat Fethodistaidd leol ym Mhontrobert, yr oedd Ann yn parhau yn rhagfarnllyd iawn yn erbyn y Methodistiaid. Dechreuodd gynllunio mynd i Lanfyllin er mwyn mynychu cyfarfodydd yr Annibynwyr yno, ond cyn i’r bwriadau hynny ddod i ben, aeth i Bontrobert i wrando ar bregethwr Methodist, a chael cymaint o fudd ysbrydol nes gorchfygu ei rhagfarnau yn erbyn y Methodistiaid. Y diwedd fu iddi ymuno â seiat y Methodistiaid ym Mhontrobert, ac ymroi i fywyd y seiat honno a’r mudiad Methodistaid ehangach fu ei hanes wedddill ei bywyd. A daeth y llwybrau dros y Berwyn i’r Bala yn gyfarwydd iawn iddi, wrth iddi fynychu cyfarfodydd pregethu y Methodistiaid yno o dro i dro, a derbyn y Cymun o law Thomas Charles.

Profiadau dwys
Yr effaith gyntaf a gafodd fynychu cyfarfodydd y Methodistiaid ar Ann oedd dyfnhau ei hymwybyddiaeth o’r ffaith ei bod ymhell oddi wrth Dduw ac yn methu cyrraedd ei safonau, ac o’r herwydd o dan ei gondemniad. Dywed ei chyfaill a’i chynghorydd ysbrydol John Hughes, a oedd yntau newydd ddod yn aelod o’r seiat ym Mhontrobert pan ddechreuodd Ann ei mynychu: ‘Profodd argyhoeddiadau grymus o’i phechadurusrwydd a cholledigaeth ei chyflwr. Yr oedd awdurdod ac ysbrydolrwydd y ddeddf [sef deddf Duw] yn ymaflyd mor rymus yn ei meddwl hyd oni bu yn ymdreiglo amryw weithiau ar hyd y ffordd wrth fyned adref o’r Bont o wrando y pregethau, gan ddychrynfeydd a thrallod ei meddwl.’

Ni bu’n hir yn y cyflwr hwnnw, meddai John Hughes, nes iddi ddod i weld trwy ffydd fod Iesu Grist, yr Un a oedd yn Dduw ac yn ddyn yn yr un Person, wedi cymryd cosb ei phechod hi arno ei hun trwy farw yn ei lle, a thrwy hynny sicrhau iddi faddeuant a chymod tragwyddol â Duw. Ac fel y byddai ei stad golledig yn pwyso mor ddwys arni ar brydiau nes peri iddi ymdreiglo ar hyd y ffordd, felly hefyd, ar ôl iddi ddod i sicrwydd ffydd, byddai ar adegau yn yfed mor ddwfn o lawenydd yr iachawdwriaeth a oedd wedi dod iddi yng Nghrist, nes y byddai’n torri allan ar adegau i orfoleddu, yn gyhoeddus ac yn ei hystafell breifat, a sŵn y gorfoleddu hwnnw i’w glywed amryw gaeau oddi wrth y tŷ yn Nolwar Fach.

Roedd yr adeg y cafodd Ann ei thröedigaeth yn gyfnod o adfywiad ysbrydol cyffredinol yn hanes seiat Pontrobert; ond yr oedd y profiadau ysbrydol a gafodd Ann adeg ei thröedigaeth yn rhai arbennig o danbaid, hyd yn oed ar adeg o ddiwygiad. Ac y mae dwyster ei phrofiadau ysbrydol adeg ei thröedigaeth yn rhagflas o angerdd ei bywyd ysbrydol ar ei hyd. Nid oedd profiadau ysbrydol dwys yn ddieithr i rai fel Thomas Charles o’r Bala a John Hughes, Pontrobert. Cafodd y ddau brofiadau ysbrydol mawr eu hunain. Ar ben hynny, roeddynt yn brofiadol iawn mewn materion eneidiol, ac wedi hen arfer â thrin a thrafod pobl a oedd wedi cael profiadau ysbrydol dwfn iawn ar adegau o adfywiad. Ond creodd profiadau ysbrydol Ann Griffiths argraff arbennig iawn ar y ddau hyn, hyd yn oed. Er enghraifft, yn 1840, ac yntau’n 65 mlwydd oed erbyn hynny, gallai John Hughes, Pontrobert, ddweud am Ann Griffiths ei bod yn ‘ddynes o gyneddfau cryfach na’r cyffredin o’r rhyw fenywaidd; yr hon hefyd oedd yn disgleirio yn fwy tanbaid ac amlwg mewn crefydd ysbrydol nag un a welais i yn fy oes’.

Soniwyd eisoes fod ardal Llanfihangel-yng-Nghwynfa yn ardal y ffin ac yn groesffordd ddiwylliannol, a bod Dolwar Fach yn fan cyfarfod dau fath o grefydd a dau fath o ddiwylliant ar gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru. Yng ngoleuni’r profiadau a grybwyllwyd uchod, â Canon Allchin gam ymhellach, gan ddweud fod Dolwar Fach yn nyddiau Ann yn fan cyfarfod amser a thragwyddoldeb, daear a nef.


Gwaith Ann Griffiths
Cyfrifid Ann, felly, yn berson nodedig am ei phrofiadau ysbrydol hyd yn oed ar adeg o adfywiad ysbrydol grymus. A ffrwyth y profiadau dwys hynny, a mynegiant ohonynt, yw’r enghreifftiau o waith Ann Griffiths sydd wedi eu cadw i ni.

Mae cyfanswm ei gwaith yn fach, mewn gwirionedd: wyth o lythyrau ac ychydig dros 70 o benillion. Dim ond un llythyr ac un pennill sydd wedi goroesi yn ei llaw hi ei hun, a’r ddau berson canolog yn y gwaith o ddiogelu ei gwaith yw John Hughes (1775-1854), Pontrobert, a’i wraig, Ruth Evans (1779?-1858).

John Hughes, Pontrobert
John Hughes, Pontrobert
(1775-1854)

Gwëydd ifanc tlawd o’r un plwyf ag Ann oedd John Hughes. Roedd tua blwyddyn yn hŷn na hi ac wedi dod yn aelod o seiat y Methodistiaid ryw flwyddyn o’i blaen. Daeth yn fuan yn arweinydd ifanc addawol ymysg y Methodistiaid Calfinaidd, a bu’n bregethwr dylanwadol iawn yn eu plith am tua hanner canrif. Daeth yn fath o fentor a chynghorydd ysbrydol i Ann Griffiths yn fuan ar ôl ei thröedigaeth, a’i gofiant byr i Ann, a gyhoeddodd yn Y Traethodydd yn 1846, ddeugain mlynedd ar ôl ei marw, yw’r ffynhonnell bwysicaf sydd gennym am ei bywyd a’i chymeriad.

Morwyn yn Nolwar Fach oedd Ruth Evans. Un o blwyf Llandrinio ydoedd, ardal sydd yn agos iawn i’r ffin â Lloegr. Roedd ei rhieni ymhlith arloeswyr y Methodistiaid yn y rhan honno o ogledd sir Drefaldwyn a daeth hi ei hun yn Fethodist tua 1791. Daeth yn forwyn i Ddolwar Fach ym Mai 1801, ac arhosodd yno tan ei phriodas â John Hughes ym Mai 1805. Datblygodd cyfeillgarwch arbennig rhyngddi hi ac Ann yn ystod y cyfnod hwnnw. Bu gan John a Ruth Hughes sawl cartref yng nghyffiniau Pontrobert ym mlynyddoedd cynnar eu bywyd priodasol, ond erbyn 1811 yr oeddynt wedi ymsefydlu yn y tŷ bychan sydd ynghlwm wrth hen gapel y Methodistiaid ym Mhontrobert, ac yno y treuliodd y ddau weddill eu bywydau hir.


Llythyrau Ann
At John Hughes, Pontrobert yr anfonwyd saith o’r wyth llythyr gan Ann sydd wedi goroesi. Nid yw’r llythyrau gwreiddiol wedi goroesi, ond gwnaeth John Hughes gopïau ohonynt mewn ysgriflyfr yn fuan ar ôl eu derbyn, ac yn ffodus iawn y mae’r llyfr llawysgrif hwnnw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn lled fuan ar ôl iddo ymuno â’r Methodistiaid, aeth John Hughes yn athro yn ysgolion cylchynol Thomas Charles. Tua diwedd 1799 a dechrau 1800 bu’n cadw ysgol yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa, gan letya yn Nolwar Fach am rai misoedd. Tra oedd yno, bu John Hughes (yn ei eiriau ei hun) ‘lawer o weithiau am amryw o oriau ynghyd yn ymddiddan ag Ann am bethau ysgrythurol a phrofiadol, a hynny gyda’r fath hyfrydwch hyd oni byddai oriau yn myned heibio yn ddiarwybod’.

Gadawodd John Hughes Ddolwar Fach yn 1800, ac o hynny hyd wanwyn 1805, er y byddai’n ymweld yn eithaf cyson ag ardal Llanfihangel a Phontrobert, bu’n cadw ysgolion cylchynol yn ne-orllewin sir Drefaldwyn, yn yr ardal rhwng Machynlleth a Llanidloes. Ac yn y cyfnod hwnnw y cododd yr ohebiaeth rhyngddo ac Ann Griffiths, yn rhyw fath o barhad o’r ‘ymddiddanion’ a fu rhyngddynt ar aelwyd Dolwar.

Dyddiad llythyr cyntaf Ann at John Hughes yw 28 Tachwedd 1800. Mae’r cyfan ond un o’r chwe llythyr arall yn ddiddyddiad. Cawsant oll eu hysgrifennu cyn i Ann briodi yn Hydref 1804, am mai ‘Ann Thomas’ yw’r enw sydd wrthynt, ac y mae lle i gredu fod y cyfan yn perthyn i’r cyfnod rhwng Tachwedd 1800 a haf 1802. Dim ond un o lythyrau John Hughes at Ann sydd wedi goroesi, a hwnnw’n ddiddyddiad; ond y mai pump o’i lythyrau at Ruth Evans ar gael. Mae’r pump yn perthyn i’r blynyddoedd 1803 ac 1804, pan oedd Ruth yn forwyn yn Nolwar Fach. Mae’n bur sicr y byddai Ann wedi eu darllen hefyd, oherwydd nid llythyrau caru ‘preifat’ mohonynt ond llythyrau ar bynciau ysbrydol. Byddai’n arferol i Ruth eu rhannu ag eraill; a cheir sawl cyd-drawiad diddorol rhwng cynnwys (a hyd yn oed union eiriad) y llythyrau hyn ac emynau Ann. Yn wir, o gymharu gwaith Ann a John yn gyffredinol, gellir cytuno’n galonog ag O. M. Edwards pan ddywed: ‘Yn y blynyddoedd 1800-1805, yr oedd meddwl Ann Griffiths a meddwl John Hughes ar yr un pethau.’

Mae’r unig lythyr sydd gennym yn llaw Ann ei hun yn llythyr at Fethodist ifanc arall, merch o’r enw Elizabeth Evans a oedd yn forwyn ar fferm Bwlch Aeddan ym mhlwyf Cegidfa (Guilsfield), rai milltiroedd i’r dwyrain o Ddolwar Fach. Mae lle i gredu fod Elizabeth Evans yn chwaer i Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach a confidante ysbrydol Ann. Nid oes dyddiad ar y llythyr hwn ychwaith. Oherwydd y dyddiad 1801 ar ddyfrnod a oedd i’w weld ar un adeg yn y papur yr ysgrifennwyd y llythyr arno, ac am iddi ei arwyddo’n ‘Ann Thomas’, gallwn ddyddio’r llythyr i rywbryd rhwng 1801 a Hydref 1804, ac mae lle i gredu ei fod wedi’i ysgrifennu tua haf 1802. Mae’r llythyr gwreiddiol bellach yn un o drysorau pennaf y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ychwanegodd Ann y pennill ‘Er mai cwbwl groes i natur yw fy llwybyr yn y byd’ at y llythyr, yr unig un o benillion Ann sydd wedi goroesi yn ei llaw hi ei hun.


Awyrgylch y seiat
Er na chafodd llythyrau Ann gymaint o sylw â’i hemynau, mae’n bwysig cofio bod rhywun fel Saunders Lewis yn eu cyfrif yn glasuron, a’u bod yn cynnwys darnau o ryddiaith grefyddol nodedig iawn. Yn y llythyrau hyn, yr ydym ar ein pen yn awyrgylch seiadau Methodistaidd ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ar bymtheg. Y mae ychydig o wahaniaeth naws rhwng y llythyr at Elizabeth Evans a’r rhai at John Hughes. Rhannu ei phrofiadau â ‘chwaer yn yr Arglwydd’ y mae Ann yn y llythyr at Elizabeth Evans; eu rhannu â chynghorydd ysbrydol y mae yn y llythyrau at John Hughes, un sydd yn ‘dad yn yr Arglwydd’ iddi, er nad oedd ond blwyddyn o wahaniaeth oedran rhwng y ddau Fethodist ifanc hyn. Eto, yr un yn y bôn yw cynnwys yr holl lythyrau. Trafod adnodau o’r Beibl, trafod cyflwr ysbrydol seiat Pontrobert a chyflwr crefydd yn gyffredinol, ac uwchlaw pob dim, trafod ei chyflwr ysbrydol hi ei hun – ‘adrodd fy helynt fy hun’– y mae Ann ynddynt i gyd. Mewn gwirionedd, trafodaethau ar bynciau’r seiat gan aelodau’r seiat yn ieithwedd y seiat yw’r llythyrau hyn, ac nid llythyrau sgyrsiol rhwng cyfeillion mynwesol.

Nid nad amlygir perthynas gynnes yn y llythyrau, fel y dengys cyfarchiadau megis ‘Annwyl chwaer’a ‘Garedig frawd’ sy’n eu hatalnodi drwyddynt draw; ond y mae eu holl osgo ac ieithwedd yn bradychu’r ffaith mai ymestyniad o ffurfioldeb a chwrteisi’r seiat brofiad sydd yma. Yn wir, mae’n bwysig iawn sylweddoli nad llythyrau cyfrinachol mo’r llythyrau hyn, er mor ingol o bersonol ydynt yn aml, wrth i Ann fynd ati i ddadansoddi ei chyflwr ysbrydol. Dadansoddi manwl y seiat brofiad sydd yma; a byddai Ann yn disgwyl i’w chyd-seiadwyr Methodistaidd ddarllen y sylwadau, yn union fel y byddai’n disgwyl iddynt wrando ar ei chyfraniadau llafar yn y seiat, ac yn union fel y byddai hi yn ei thro yn darllen llythyrau John Hughes at ei brawd ac at Ruth ac at eraill o’r cyfeillion yn seiat Pontobert. Ac yn ôl yr hanes, ar ôl eu derbyn, byddai John Hughes yn darllen llythyrau Ann ar goedd yn y seiat leol yn yr ardal lle’r oedd yn cadw ysgol ar y pryd, ‘er adeiladaeth a chysur yr aelodau’.

Cynllun Hen Gapel Pontrobert
Cynllun Hen Gapel Pontrobert
(o Cymru 1906)
Codwyd y capel yn 1800 ar gyfer seiat leol y Methodistiaid Calfinaidd.
Byddai Ann Griffiths yn eistedd ar yr ochr chwith i'r pulpud.
Bu'r tŷ sydd o dan yr un to â'r capel yn gartref i John Hughes a Ruth Evans am y rhan fwyaf o'u bywyd priodasol.


Ei hemynau
Dichon, felly, na fyddai Ann yn poeni’n ormodol pe bai’n gwybod bod ei llythyrau yn cael eu darllen a’u trafod gan bobl heddiw. Ond mater arall yw hi yn achos ei hemynau, oherwydd y pethau preifat iddi hi oedd nid y llythyrau, er mor ingol o bersonol y gallai’r rheini fod ar adegau, ond yr emynau, sydd ar un olwg yn llawer mwy gwrthrychol eu datganiadau.

Mae’n debyg y gellir cyfiawnhau galw cerddi Ann Griffiths yn emynau am eu bod yn gerddi mawl ac am eu bod yn gerddi i’w canu; ond yn sicr bendifaddau, nid emynau cynulleidfaol mohonynt. Mae’n amlwg fod Ann yn ymwybodol o arbenigrwydd y profiadau ysbrydol a ddeuai i’w rhan, a’i bod yn ymdeimlo â’r angen i’w cofnodi. Yn ôl John Hughes, Pontrobert, bu’n fwriad ganddi ar un adeg gadw dyddiadur ysbrydol. Yn lle hynny, meddai, dechreuodd gyfansoddi penillion o emynau pan fyddai ‘rhywbeth neilltuol ar ei meddwl’; a cheir sawl hanesyn sy’n awgrymu bod ei hemynau yn gynnyrch cyfnodau o lwyr ymgolli mewn myfyrdod dwys – adegau pan fyddai’n ‘misio yn deg â sefyll yn ffordd fy nyletswydd gyda phethau amser’, fel y dywedodd hi ei hun yn ei llythyr at Elizabeth Evans. Math o ddyddiadur personol yw ei hemynau, felly, yn cofnodi ac yn crisialu ei phrofiadau a’i chanfyddiadau ysbrydol.

Mae’n wir i rai o’i phenillion fynd yn eiddo i gylch ehangach yn ystod bywyd Ann. Sonnir am rai o’r pregethwyr Methodist a ddeuai i Ddolwar Fach i gynnal oedfaon, yn dysgu rhai ohonynt ac yn eu defnyddio mewn seiadau eraill. Aeth penillion eraill ar led, yn ddiau, mewn llythyrau at gyfeillion, fel yr un yn llythyr Ann at Elizabeth Evans. Bu Ann yn adrodd rhai wrth aelodau o’i theulu; bu’n adrodd llawer ohonynt wrth Ruth y forwyn. Ond nid y cyfan, ychwaith. Mae’n amlwg ei bod ar adegau yn ymdeimlo â’r angen i gadw rhai penillion yn gyfan gwbl iddi hi ei hun. Mae sôn amdani’n cuddio rhai penillion ar ddarnau o bapur o dan glustog cadair wellt yn y gegin, a Ruth yn cael golwg lechwraidd arnynt a’u dysgu. A phan gafodd Ann ei hannog gan Ruth, am ei bod yn gwaelu yn ei hiechyd, i roi ei hemynau ar glawr rhag iddynt fynd i golli, ei hateb oedd, nad oedd yn eu gweld yn deilwng. ‘Nid wyf am i neb eu cael nhw ar fy ôl,’ meddai; ‘rwy’n eu cyfansoddi er cysur i mi fy hun.’

Yn ffodus, ni chafodd Ann ei dymuniad. Bu cof Ruth, a’i sylweddoliad hi ac eraill o werth yr emynau, yn drech na hynny. Ar ôl marw Ann, adroddodd Ruth hwynt wrth Thomas Charles o’r Bala. Ni fedrai Ruth ysgrifennu, ond anogodd Thomas Charles ei gŵr, John Hughes, Pontrobert, i ysgrifennu’r emynau i lawr er mwyn iddo eu cyhoeddi. Dyna a wnaed, a chyhoeddwyd nifer dda o’r penillion mewn casgliad bychan o emynau a ymddangosodd o fewn ychydig fisoedd i farwolaeth Ann.


Cyhoeddi gwaith Ann
Cofnododd John Hughes benillion Ann mewn ysgriflyfrau sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddwyd tua dwy ran o dair o’r penillion hynny, yn gymysg â gwaith emynwyr eraill, mewn cyfrol yn dwyn y teitl Casgliad o Hymnau, a argraffwyd yn y Bala tua dechrau 1806. Tua’r un adeg cyhoeddwyd nifer o’r penillion hyn mewn atodiad yn ail argraffiad casgliad emynau dylanwadol Robert Jones, Rhos-lan, Grawn-sypiau Canaan, ac mae’n bur bosibl fod Robert Jones wedi cynorthwyo Thomas Charles i baratoi penillion Ann ar gyfer y wasg.

Mae gwahaniaethau arwyddocaol rhwng penillion Ann Griffiths yn Casgliad o Hymnau (1806) a’r ffurf sydd arnynt yn ysgriflyfrau John Hughes, o ran eu geiriad ac o ran y modd y’u cyfunwyd yn emynau. Erbyn hyn derbynnir yn gyffredinol mai’r ffurf sydd arnynt yn ysgriflyfrau John Hughes yn hytrach na’u ffurf yn Casgliad o Hymnau (1806) sydd agosaf (fel arfer) at ffurf wreiddiol penillion Ann Griffiths, ac mai golygu a diwygio Robert Jones a Thomas Charles (a John Hughes efallai) sy’n gyfrifol am lawer o’r gwahaniaethau rhwng fersiynau llawysgrif John Hughes a’r fersiynau printiedig cynnar.

O blith y penillion o’i gwaith yn ysgriflyfrau John Hughes nas cyhoeddwyd yn Casgliad o Hymnau (1806), cyhoeddodd John Hughes bob un ond saith ohonynt pan aeth ati i gyhoeddi cofiant i Ann yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (gan eu diwygio yn ôl ei fympwy yn hytrach na’u hatgynhyrchu yn y ffurf a oedd arnynt yn ei ysgriflyfrau). O’r saith pennill a oedd yn weddill heb eu cyhoeddi ganddo, bu’n rhaid aros tan 1882 cyn cyhoeddi pump ohonynt, a than 1903 cyn cyhoeddi’r ddau arall.

Er i benillion Ann gael eu hailgyhoeddi’n gyson a’u dethol yn bur eang i gasgliadau emynau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n bwysig cofio mai fersiynau golygedig Thomas Charles, Robert Jones, Rhos-lan a John Hughes, Pontrobert, neu amrywiadau arnynt, a fu mewn cylchrediad ar hyd y ganrif honno. Bu’n rhaid aros tan y gyfrol Gwaith Ann Griffiths (1905), dan olygyddiaeth O. M. Edwards, cyn cyhoeddi fersiynau llawysgrif John Hughes am y tro cyntaf. Ac mae’n werth cofio, felly, fod bri cynyddol Ann Griffiths yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn seiliedig ar destunau o’i hemynau a oedd yn bur wahanol ar adegau i’r ffurf wreiddiol arnynt!

Dyna sy’n wir am lythyrau Ann hefyd. Cyhoeddodd John Hughes dri ohonynt am y tro cyntaf mewn cylchgronau yn ystod y blynyddoedd 1819-23, a’r gweddill am y tro cyntaf ynghlwm wrth ei gofiant i Ann Griffiths yn 1846. Yma eto, bu John Hughes yn ddigon parod i olygu a diwygio yn hytrach nag atgynhyrchu’r fersiynau llawysgrif yn ffyddlon, a bu’n rhaid aros tan ddechrau’r ugeinfed ganrif cyn cyhoeddi’r llythyrau am y tro cyntaf yn y ffurf sydd arnynt yn llawysgrifau John Hughes.


Trefn a dyddiad
Mae 73 o benillion y gallwn fod yn weddol hyderus mai Ann a’u lluniodd. Maent yn ymffurfio’n 30 o emynau, rhai’n emynau un pennill, a’r hwyaf ohonynt, ei cherdd odidog ‘Rhyfedd, rhyfedd gan angylion’, yn gyfanwaith nodedig o saith o benillion. Mae ei hemynau un-pennill yn aml yn llai eu camp na’r emynau aml-bennill, a dichon bod nifer ohonynt yn ddrylliau o gerddi nas datblygwyd ymhellach. Yn achos yr emynau aml-bennill, yr argraff a geir yw mai dechrau eu rhawd yn benillion unigol fu hanes llawer ohonynt, yn gynnyrch cyfnodau byr o fyfyrio dwys, ac iddynt dyfu’n gyfanweithiau gam wrth gam dros gyfnod o fisoedd, onid flynyddoedd. Ond ai Ann ei hun a fu’n gyfrifol am gyplysu’r penillion hyn yn emynau aml-bennill, neu a fu gan John a Ruth, neu rywrai eraill, eu rhan hefyd? Anodd dweud erbyn hyn.

Er y gellir yn betrus gynnig dyddiad cyfansoddi ar gyfer ambell bennill, y gwir yw ei bod yn amhosibl dweud gydag unrhyw sicrwydd erbyn hyn ba pryd ac ym mha drefn y’u cyfansoddwyd. Ond gellir awgrymu’n ochelgar fod y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o benillion Ann yn gynnyrch y blynyddoedd 1802–1804.


Mesur
Defnyddiodd Ann gryn amrywiaeth o fesurau wrth lunio ei phenillion, cynifer ag wyth i gyd. Wedi dweud hynny, y mae’r mwyafrif llethol o’r penillion – tua dwy ran o dair ohonynt – ar y mesur 87.87. Dwbwl. Bu’r mesur hwn yn un hynod boblogaidd yn hanes emynyddiaeth Gymraeg. Mae’n fesur mawreddog, a’i wyth linell hir yn caniatáu i’r emynydd weithio ar gynfas eang o ran cynnwys a chrefft.

Mae bron y cyfan o benillion 87.87. Dwbl Ann Griffiths yn ffurf ar y mesur sydd yn afreolaidd ei sillafau, ffurf a fedyddiwyd yn 87. 87. Dwbl ‘Clonciog’. Fe’i nodweddir gan sillafau diacen ychwanegol a geir yn anghyson ar ddechrau llinellau; a dylid nodi fod anghysonderau tebyg o ran sillafau yn nodweddu defnydd Ann o fesurau eraill hefyd. Nifer acenion y llinellau sy’n rhoi eu rheoleidd-dra i’r llinellau hyn yn hytrach na nifer eu sillafau.

Bu llawer o gwyno dros y blynyddoedd am y ‘tor mesur’ hwn yn emynau Ann Griffiths, a thipyn o newid ar ei phenillion gan olygyddion casgliadau emynau er mwyn rheoleiddio hyd y llinellau i ddiben canu cynulleidfaol. Ond y gwir yw nad ‘tor mesur’ sydd yma o gwbl. Roedd y math hwn o afreoleidd-dra sillafau yn nodwedd gyffredin ar ganu gwerin oes Ann. Nid oes anhawster canu ei hemynau ‘clonciog’ ar alaw werin megis ‘Y Ferch o Blwyf Penderyn’, er enghraifft. Ac y mae hyn oll yn awgrymu’n gryf mai alawon poblogaidd ei bro oedd ym meddwl Ann wrth iddi lunio nifer o’i hemynau.

Nodweddion yr emynau
Nid dyma’r lle i fanylu ar nodweddion emynau Ann Griffiths, ond mentrwn grynhoi rhai o’u prif nodweddion dan dri phen:

1. Gwrthrychol
Fel y pwysleisiodd Saunders Lewis yn ei ddarlith nodedig ‘Ann Griffiths: Arolwg Llenyddol’, bardd myfyrdod, bardd y deall, yw Ann, bardd sy’n syllu allan mewn rhyfeddod ar banorama gwirioneddau’r Ffydd. Mae ei gallu i feddwl yn eglur a rhoi mynegiant clir fel y grisial i’r meddwl hwnnw, yn un o nodweddion hynotaf ei gwaith. Yn wir, un peth trawiadol am ei llythyrau yw cynifer o weithiau y mae’r gair ‘meddwl’ yn digwydd ynddynt. Gair pwysig arall yn ei gwaith yw ‘gwrthrych’, ac felly hefyd eirau megis ‘gweld’ ac ‘edrych’. ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd wrthrych teilwng o fy mryd’ meddai ar ddechrau un o’i hemynau enwocaf.

2. Goddrychol
Ond yn ogystal â’r elfen wrthrychol, nodweddir ei hemynau gan ddwyster profiad personol. Diben eu cyfansoddi ar un wedd oedd rhoi mynegiant i’w phrofiadau ysbrydol er mwyn eu meddiannu’n well. Mae’r person cyntaf unigol yn amlwg iawn yn ei hemynau drwyddynt draw. Gwrthrych teilwng o fy mryd yw’r un a welir rhwng y myrtwydd. Yn ddiddorol iawn, mae dau fersiwn o’r pennill enwog hwnnw ar gael mewn mannau gwahanol yn ysgriflyfrau John Hughes. Ann ei hun (yn hytrach nag unrhyw ymyrraeth olygyddol gan John Hughes, dyweder) a fu’n gyfrifol am y ddau fersiwn fel ei gilydd, yn ôl pob tebyg; ac y mae’r ddau fersiwn, rhyngddynt, fel petaent yn tanlinellu’r cyfuniad o’r gwrthrychol a’r goddrychol a geir yng ngwaith Ann drwyddo draw, oherwydd geiriau agoriadol y naill fersiwn yw ‘Wele’n sefyll’, sy’n pwysleisio’r syllu gwrthrychol, tra mai ‘Gwela’i yn sefyll’ yw geiriau agoriadol mwy goddrychol y llall.

3. Beiblaidd
Mae’r Beibl yn gwbl ganolog i fywyd a gwaith Ann Griffiths. Perygl gwirioneddol i rywun a gâi ‘ymweliadau’ ysbrydol mor ysgytwol â hi fyddai cael ei lywodraethu gan y teimladau a’r profiadau hynny. Ond nid felly Ann. Iddi hi, y Beibl yw Gair Duw, datguddiad dwyfol sy’n awdurdod terfynol ar bob agwedd ar ei bywyd, ei meddwl a’i phrofiad. Ofnai ‘ddychmygion o bob rhyw’, gan ddiolch ‘am y Gair yn ei awdurdod anorchfygol’. Ac y mae i’r Beibl le allweddol yn y broses o ffurfio a dehongli profiad Ann o’r Duwdod.

Oherwydd golwg aruchel Ann ar y Beibl, nid yw’n syndod mai dyna oedd prif ddeunydd ei darllen a’i myfyrdod. Mae ymadroddion megis ‘y gair hwnnw ar fy meddwl’ yn dôn gron drwy ei llythyrau wrth i adnod ar ôl adnod gydio ynddi a siarad â hi a’i chyflwr. Trwythodd ei hun yn y Beibl, ac ym mhob rhan ohono, yr Hen Destament yn ogystal â’r Newydd. Gwelai’r cyfan yn un gwead cyfoethog gan yr un Awdur dwyfol. Gwelai’r cyfan hefyd yn troi o gwmpas person Iesu Grist. Ef yw’r allwedd i bob rhan o’r Beibl; ato Ef y mae’r cyfan yn cyfeirio, weithiau yn eglur, weithiau mewn dameg a chysgod.

O gofio hyn oll, nid yw’n annisgwyl canfod bod gwaith Ann yn frith o gyfeiriadau ac adleisiau beiblaidd, a hynny o bob rhan o’r Beibl. O ran ei defnydd o gyfeiriadaeth feiblaidd y mae’n iawn ystyried Ann Griffiths yn fardd clasurol, oherwydd yn ei gwaith y mae’r meddwl yn gwibio yn ôl ac ymlaen rhwng y gerdd a ffynhonnell y gyfeiriadaeth, a’r naill gyd-destun yn cyfoethogi’r llall. Yn wir, heb ddal gwaith Ann yng ngoleuni’r Beibl, collwn haenau o ystyr ac arwyddocâd, a’n gadael ein hunain yn agored i gamddeall a chamddehongli ei gwaith yn ddybryd. Er enghraifft, collir haenau o ystyr oni sylweddolir fod y llinell ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ yn cyfeirio at weledigaeth ym mhennod gyntaf proffwydoliaeth Sechareia yn yr Hen Destament, a bod Ann yn dehongli’r weledigaeth honno o farchog cryf arfog a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, yn ddarlun ac yn gysgod o Grist yn amddiffyn pobl Dduw (y ‘myrtwydd’) yn eu cyflwr isel a chyfyng.

Mae pob emynydd Cymraeg yn adleisio’r Beibl yn ei waith, ond y mae defnydd Ann o’r Beibl yn ddwysach na’r lleill. Mae’r adleisiau’n amlach ac wedi’u plethu’n dynnach. Da y dywedodd Derec Llwyd Morgan mai creu collage o luniau beiblaidd y mae Ann yn ei gwaith. Yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, y mae holl ieithwedd ei hemynau yn seiliedig ar iaith y Beibl, a’r Beibl yw ffynhonnell yr holl ddelweddau a chyffelybiaethau a ddefnyddia i ddiriaethu ei syniadau a’i phrofiadau. Mae hyn wedi arwain at y cyhuddiad nad yw Ann yn gwneud llawer mwy yn ei gwaith na rhaffu adnodau o’r Beibl at ei gilydd. Ond gwna sylw felly gam mawr â hi, oherwydd y mae’n amlwg fod Ann yn dethol ei delweddaeth yn gelfydd ac yn greadigol, a’i bod wedi meddiannu ieithwedd y Beibl mor llwyr nes llwyddo i’w throi yn iaith ei phrofiadau dyfnaf.


Themâu’r emynau
Nid dyma’r lle ychwaith i drafod yn fanwl themâu emynau Ann Griffiths, ond mentrwn eu crynhoi hwythau o dan dri phen:

1. Deddf
Mae i ddeddf neu gyfraith Dduw le canolog ym mywyd a gwaith Ann Griffiths. Iddi hi y ddeddf, mewn rhyw ystyr, sy’n darlunio cymeriad Duw ac yn clymu holl broses yr iachawdwriaeth ynghyd. Y peth cyntaf a wna’r ddeddf yw dangos i Ann ei bod yn methu cwrdd â’i gofynion, ei bod wedi troseddu yn erbyn cyfraith Duw, a’i bod yn annerbyniol ganddo o’r herwydd – mewn gair, ei bod yn bechadur. Ond y mae i’r ddeddf swyddogaeth gadarnhaol hefyd, oherwydd er bod y ddeddf ar un olwg yn ei chondemnio, eto, am ei bod yn fynegiant o gymeriad Duw a’i ewyllys, y mae’n gosod patrwm ar ei chyfer, yn diffinio sancteiddrwydd fel petai.

2. Delw
Yn rhedeg trwy waith Ann y mae hiraeth dwfn am fod yn sanctaidd, hiraeth am gydymffurfio â phatrwm Duw ar ei chyfer. Sonia yn ei hemynau am ei hiraeth am ‘ddiysgog gydymffurfio â phur a sanctaidd ddeddfau’r nef’ ac am fod ar ddelw Crist yn llawn. Er ei bod yn ymdrechu at hynny yn y bywyd hwn, mae Ann yn ymwybodol na fydd modd cyrraedd hynny’n llawn yr ochr hon i’r bedd. Dyna sy’n rhannol esbonio’r hiraeth mawr sydd yn ei gwaith am y nefoedd. Bydd marw yn elw iddi, meddai yn ei llythyr at Elizabeth Evans, am y bydd drwy hynny yn ‘cael gadael ar ôl bob tueddiad croes i ewyllys Duw, gadael ar ôl bob gallu i ddianrhydeddu deddf Duw, bob gwendid yn cael ei lyncu i fyny gan nerth, cael cydymffurfiad cyflawn â’r gyfraith, yr hon sydd eisoes ar ein calon, a mwynhau delw Duw am byth’.

3. Duw-ddyn
Ond nid hiraeth am sancteiddrwydd ac am y nefoedd sydd yn ei gwaith mewn gwirionedd yn gymaint â hiraeth am Iesu Grist, am ‘wrthrych mawr ei Berson Ef’. Yn y bôn, hiraeth am fod mewn cymundeb digwmwl a diderfyn â Christ sy’n rhedeg trwy ei gwaith: ‘Cusanu’r Mab i dragwyddoldeb heb im gefnu arno mwy.’ Ef yw’r patrwm perffaith, y gwrthrych teilwng. Ef yw’r Iawn sy’n agor ‘ffordd gyfreithlon i droseddwyr i hedd a ffafor gyda Duw’. Ef – yr Un sy’n Dduw ac yn ddyn ar yr un pryd, yr Un sy’n cwmpasu ac yn cymodi daear a nef – yw achos pennaf y rhyfeddu sydd yn nodwedd mor amlwg yn ei gwaith, a ffynhonnell bennaf y paradocsau sy’n rhan mor greiddiol o wead ei meddwl a’i mynegiant.

Y blynyddoedd olaf
Bu’r blynyddoedd 1804 ac 1805 yn rhai o newid mawr yn hanes Dolwar Fach. Yn Chwefror 1804, bu farw tad Ann yn sydyn. Bu hynny’n ergyd drom, a gadawodd ei hôl ar iechyd Ann weddill ei dyddiau. Mae’n rhaid hefyd fod ei farwolaeth wedi ychwanegu cryn dipyn at ei gwaith hi a’i brawd, John, wrth iddynt ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros redeg y ffarm. Yn Hydref 1804, priododd Ann ag arweinydd Methodist ifanc o’r plwyf nesaf, Thomas Griffiths, a ddeuai o deulu pur gefnog ond nad oedd, yn fwy nag Ann a’i brawd John, yn gryf o gorff.

Cofnod priodas Thomas ac Ann Griffiths
Cofnod priodas Thomas ac Ann Griffiths yng nghofrestr plwyf
Llanfihangel-yng-Ngwynfa

Ym Mai 1805, gadawodd Ruth Evans Ddolwar Fach pan briododd John Hughes. Erbyn hynny yr oedd Ann yn feichiog ers tua saith mis. Gwannaidd iawn oedd Elizabeth, merch fach Ann a Thomas Griffiths, pan aned hi ar 13 Gorffennaf 1805, ac fe’i bedyddiwd yr un diwrnod, nid yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ond gan Jenkin Lewis, gweinidog Annibynnol capel Pen-dref, Llanfyllin. Bu farw’r ferch fach ymhen pythefnos, a’i chladdu ym mynwent Eglwys Llanfihangel ar 31 Gorffennaf.

Yr oedd Ann ei hun mewn gwendid mawr yn dilyn yr enedigaeth, a bu farw cyn pen pythefnos ar ôl ei merch, yn 29 mlwydd oed, a’i chladdu ar 12 Awst 1805 ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Y bore Sul canlynol, traddododd John Hughes bregeth angladdol iddi yng nghapel y Methodistiaid ym Mhontrobert. Cododd yn destun adnod o bennod gyntaf Llythyr Paul at y Philipiaid – adnod sy’n cael lle canolog yn yr unig lythyr sydd gennym yn llaw Ann, yr un at Elizabeth Evans – ‘Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw’.