Nodir isod rai dyddiadau a digwyddiadau pwysig yn hanes bywyd
Ann Griffiths. Yn ogystal, nodir dyddiadau pwysig yn hanes aelodau
ei theulu agos yn ystod bywyd Ann, ynghyd â rhai dyddiadau
perthnasol yn hanes aelodau’r teulu cyn ei geni. At y rhain,
er mwyn gosod bywyd yr emynyddes yn ei gyd-destun ehangach, ychwanegwyd
rhai dyddiadau eraill arwyddocaol (e.e., dyddiadau pwysig yn hanes
aelodau ei chylch cyfeillion, digwyddiadau yn hanes Methodistiaeth
yn ei hardal, etc.), yn ogystal â dyddiadau cyhoeddi ambell
lyfr a fu’n ddylanwadol yn natblygiad ysbrydol Ann a’i
chydnabod agos.
E. Wyn James
1735 |
16 Rhagfyr 1735 |
Evan Thomas ac Elizabeth Morgan (rhieni tad
Ann) yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1736 |
3l Hydref 1736 |
Bedyddio John, mab Evan ac Elizabeth Thomas yn Eglwys
Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Ef oedd tad Ann. Fel John Evan
Thomas yr adwaenid ef yn gyffredin yn yr ardal, neu Siôn
Ifan Thomas ar lafar. |
|
1737 |
12 Ebrill 1737 |
Edward Theodore o blwyf Hirnant a Jane Morgan o blwyf
Llanrhaeadr-ym-Mochnant (rhieni mam Ann) yn priodi. |
|
1744 |
1 Ionawr 1744 |
Bedyddio Jane, merch Edward a Jane Theodore, yn Eglwys
Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Hi oedd mam Ann. |
|
1759 |
1759 |
Cyhoeddi llyfr Timothy Thomas, Traethiad am y Wisg-Wen
Ddisglair. Honna rhai mai’r llyfr hwn, ac nid
Tragywyddol Orphwysfa’r Saint (1790), a fu’n
gyfrwng deffro John Thomas, brawd Ann, yn ysbrydol. Gwyddys
fod copi o’r llyfr hwn yn Nolwar Fach, ac un arall
ym meddiant John Hughes, Pontrobert. |
|
1764 |
Pasg 1764 |
John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Oruchwylwyr
y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal
y swydd am ddwy flynedd, hyd Basg 1766. |
|
1767 |
10 Chwefror 1767 |
John Evan Thomas (30 oed) a Jane Theodore (23 oed) yn
priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ac yn mynd i
fyw at rieni John i fferm Tŷ Mawr, tua milltir o Ddolwar
Fach. |
13 Rhagfyr 1767 |
Bedyddio Jane, chwaer hynaf Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1769 |
20 Awst 1769 (?) |
Bedyddio John, brawd hynaf Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
c. 1769 |
Geni Thomas Williams (‘Eos Gwnfa’), gwehydd
o Bontyscadarn, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, a bardd toreithiog.
Bu ei garolau plygain yn boblogaidd iawn. Bu farw yn 1848,
a’i gladdu ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1770 |
Mawrth 1770 |
Evan Thomas yn cymryd tenantiaeth Dolwar Fach. |
|
1772 |
Mawrth 1772 |
Tenantiaeth Dolwar Fach yn cael ei throsglwyddo oddi
wrth Evan Thomas i’w fab, John Evan Thomas. |
Pasg 1772 |
John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Oruchwylwyr
y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal
y swydd hyd Basg 1773. |
10 Mai 1772 |
Bedyddio Elizabeth, ail chwaer Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
11 Gorffennaf 1772 |
Geni John Davies, mewn bwythyn ar fferm Dugwm Isaf ym
mhlwyf Meifod, yn ôl pob tebyg. Roedd yn gyfaill agos
i John Thomas, brawd Ann, a daeth yn athro yn ysgolion cylchynol
Thomas Charles. Yn 1800 gadawodd i fod yn genhadwr yn Tahiti,
lle y bu farw yn 1855. Am gyfran helaeth o’i fywyd,
bu’n gohebu’n gyson â John Hughes, Pontrobert.
Y tebyg yw mai ef yw’r John mab David a Martha Davies
a fedyddiwyd yn Eglwys Meifod ar 12 Gorffennaf 1772. |
c. 1772 |
Seiat Fethodistaidd yn ymffurfio yn ardal Pontrobert,
gan ymgartrefu ym Mhen-llys. |
|
1773 |
24 Chwefror 1773 |
Claddu Evan Thomas, Dolwar Fach (tad-cu Ann)
ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
Pasg 1773 |
Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Oruchwyliwr y Tlodion
dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1775 |
22 Chwefror 1775 |
Geni John, mab David Hugh a Jane Ellis, ei ail wraig.
Fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa
ar 26 Chwefror 1775. Dyma ‘John Hughes, Pontrobert’,
a briododd Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach, ac a ddaeth yn
weinidog amlwg gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. |
|
1776 |
21 EBRILL 1776 |
BEDYDDIO ANN YN EGLWYS LLANFIHANGEL-YNG-NGWYNFA |
16 Medi 1776 |
Geni Thomas, mab Edward a Margaret Griffiths. Fe’i
bedyddiwyd yn Eglwys Meifod ar 20 Medi 1776. Dyma’r
Thomas Griffiths a briododd Ann yn Hydref 1804. |
|
1779 |
c. 1779 |
Geni Ruth Evans, merch Morris a Margaret Evans, Melin
y Mardy, plwyf Llandrinio. Yn 1801 aeth yn forwyn i Ddolwar
Fach. Hi a’i gŵr, John Hughes, Pontrobert, a fu’n
gyfrifol yn fwy na neb am ddiogelu emynau Ann. |
1779 |
Twm o’r Nant (Thomas Edwards; 1739-1810), yr anterliwtiwr
enwog, yn dod i fyw am gyfnod byr i Ddolobran, gerllaw Pontrobert. |
20 Tachwedd 1779 |
Bedyddio Edward, ail frawd Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1782 |
9 Ebrill 1782 |
Claddu Elizabeth, merch Evan ac Elizabeth Thomas, Dolwar
Fach (a modryb Ann), ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1784 |
2 Gorffennaf 1784 |
Thomas Charles (1755-1814) yn ymuno â seiat y Methodistiaid
yn y Bala. |
|
1785 |
1785 |
Thomas Charles yn cynnal ei ysgolion cylchynol cyntaf. |
|
1786 |
c. 1786 |
Ann yn cyfansoddi englyn byrfyfyr. |
|
1789 |
1789 |
Y Chwyldro Ffrengig. Dilynwyd y Chwyldro yn 1793 gan
ryfel rhwng Prydain a Ffrainc. Ac eithrio cadoediad byr
yn 1802-03, bu’r ddwy wlad yn rhyfela’n ddi-dor
o 1793 hyd 1815, ddeng mlynedd ar ôl marw Ann. Yn
ôl John Hughes, Pontrobert, byddai Ann yn ddiwyd mewn
gweddi yn achos y rhyfel hwn. |
29-30 Medi 1789 |
Eisteddfod y Bala, sef yr eisteddfod gyntaf i gael ei
chefnogi’n swyddogol gan y Gwyneddigion. Ymhlith y
beirdd a ddaeth ynghyd yr oedd y radical, William Jones
(1726-95), Llangadfan, a Harri Parri, Craig-y-gath, athro
barddol tad Ann. Gwallter Mechain (Walter Davies; 1761-1849)
oedd y bardd buddugol. Bu John Hughes, Pontrobert yn cystadlu
yn Eisteddfodau’r Gwyneddigion yn 1794 (Dolgellau)
a 1795 (Penmorfa). |
|
1790 |
c. Ion.-Chwef. 1790 |
Thomas Evans yn dod yn gurad i blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
1790 |
Cyhoeddi Tragywyddol Orphwysfa’r Saint,
cyfieithiad Thomas Jones, Creaton o gyfrol Richard Baxter,
The Saints Everlasting Rest, a’r holl elw
tuag at Ysgolion Rhad Cymreig Mr Charles o’r Bala.
Dywedir mai dyma’r llyfr a fu’n gyfrwng deffro
John Thomas, brawd Ann, yn ysbrydol |
|
1791 |
1791 |
Cyhoeddi Marw i’r Ddeddf a Byw
i Dduw, cyfieithiad o lyfr Ralph Erskine, Law-Death,
Gospel Life. Gwyddys fod gan John Hughes, Pontrobert
gopi o’r llyfr dylanwadol hwn. |
24 Awst 1791 |
Priodas Thomas Evans, curad Llanfihangel-yng-Ngwynfa,
a Margaret Jones, Efail Llwydiarth, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.
Tafarn a gefail ar y ffordd rhwng Llanfyllin a Llangadfan
oedd Efail Llwydiarth. Roedd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer
nosweithiau llawen a dawnsfeydd, a byddai Ann yn ei mynychu’n
gyson cyn ei thröedigaeth. |
|
1792 |
c. 1792 (?) |
Argyhoeddi John, brawd Ann, wrth iddo ddarllen Tragywyddol
Orphwysfa’r Saint (1790), copi a gafodd yn fenthyg
gan ei gyfaill, Samuel Owen. Cyn bo hir wedi hynny, aeth
at y Methodistiaid i Ben-llys, y cyntaf o deulu Dolwar i
ymuno â nhw. |
1792 |
Cyhoeddi Gwledd i’r Eglwys, cyfieithiad
Thomas Jones, Creaton o lyfr William Romaine ar Ganiad Solomon,
Discourses upon Solomon’s Song. Roedd copi
o’r llyfr hwn ym meddiant Thomas Griffiths, gwr Ann. |
|
1793 |
1793 |
Cyhoeddi llyfr Benjamin Jones, Pwllheli, Athrawiaeth
y Drindod. |
17 Chwefror 1793 |
Elizabeth, chwaer Ann, yn priodi Thomas Morris o blwyf
Llangadfan yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, gan symud
i fyw i fferm Parc Llysyn ar derfynau plwyf Llangadfan,
tua phum milltir o Ddolwar Fach. |
24 Mawrth 1793 |
Bedyddio John, mab Jane, chwaer hynaf Ann, a’i
gŵr, Thomas Jones, siopwr o Lanfyllin? Yn ôl Cyfrifiad
1851 a chofnod ei farwolaeth yn 1855, gellir casglu i John
Jones gael ei eni rhwng Mai 1792 a Mawrth 1793, sef chwe
blynedd cyn priodas ei rieni. Mae lle i gredu iddo gael
ei eni yn ardal Rhosybrithdir, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Methwyd darganfod cofnod ei fedyddio. Tybed ai ef yw’r
Thomas, mab anghyfreithlon Jane Thomas, Llanfyllin, a fedyddiwyd
yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ar 24 Mawrth 1793? |
13 Mai 1793 |
Ann yn un o dystion swyddogol priodas David Thomas o
blwyf Llanfair a Jane Hughes o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa
yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1794 |
31 Ionawr 1794 |
Claddu Jane Thomas, mam Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa,
yn 50 oed. Roedd Ann yn 17 oed ar y pryd. |
1 Mawrth 1794 |
Geni Ann, merch ‘Thomas Maurice Park’ a’i
wraig, Elizabeth (sef chwaer Ann, yn ôl pob tebyg),
a’i bedyddio yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol. |
21 Mehefin 1794 |
Ceir y cofnod a ganlyn yng Nghofrestr Plwyf Llangadfan:
‘John the illegitimate son (as supposed) of Thomas
Morris Park and Anne Evans his Concubine was born 21st.
and baptised 22nd. of June 1794.’ Daethpwyd ag achos
yn erbyn y ddau yn y llys eglwysig yng Ngorffennaf 1795
ar gyhuddiad o odineb. Yn ôl pob tebyg, gŵr Elizabeth
chwaer Ann oedd hwn, ac mae’n ddigon posibl mai ef
yw’r ‘Thomas Morris alias Jones junior’
o blwyf Llangadfan y bedyddiwyd Anne, ei ferch anghyfreithlon
ef ac Elizabeth Lewis o blwyf Garthbeibio, yn Eglwys Garthbeibio
ar 28 Chwefror 1787. Claddwyd y plentyn ym mynwent yr eglwys
honno ar 28 Medi 1787, ddiwrnod ar ôl i gyhuddiad
o anniweirdeb gael ei ddwyn yn erbyn Thomas Morris ac Elizabeth
Lewis yn y llys eglwysig. Mae David Thomas yn ei gyfrol,
Ann Griffiths a’i Theulu (1963), t.40, yn
awgrymu bod rhyw ddieithrwch rhwng Elizabeth Morris a’i
thad, John Evan Thomas, Dolwar Fach. Tybed ai ‘helyntion’
Thomas Morris a fu’n gyfrifol am hynny? |
|
1795 |
1795 |
Ymosod ar y Methodist, Edward Watkin, Llanidloes wrth
iddo bregethu yn yr awyr agored yn Llanfyllin. |
Pasg 1795 |
John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Wardeniaid
Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd am ddwy
flynedd, hyd Basg 1797. Bu’n gweithredu hefyd yn un
o Oruchwylwyr y Tlodion dros y plwyf o Basg 1795 hyd Basg
1796. |
21 Mai 1795 |
Geni David Jones, ail blentyn a mab hynaf Elizabeth (chwaer
Ann) a’i gŵr, Thomas Morris. Fe’i bedyddiwyd
yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol. |
c. 1795 |
Geni David Jones, ail blentyn a mab hynaf Elizabeth (chwaer
Ann) a’i gŵr, Thomas Morris. Fe’i bedyddiwyd
yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol. |
|
1796 |
1796 |
Ann yn torri ei henw a’i chyfeiriad ar dudalen
mewn casgliad llawysgrif o farddoniaeth a fu’n eiddo
i Harri Parri, Craig-y-gath, athro barddol tad Ann, ond
a ddaeth o bosibl yn eiddo i Edward, brawd Ann, yn 1796.
Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC,
Cwrt Mawr 1491B). |
Gwanwyn 1796 |
Diwygiad grymus yn torri allan ym Mhontrobert. Yn ganlyniad,
symudodd yr achos Methodistaidd o Ben-llys i Bontrobert
yn raddol yn y blynyddoedd 1796-97. Erbyn i’r achos
symud i Bontrobert yr oedd John, brawd Ann, wedi ei ddewis
yn flaenor. |
Llun y Pasg (?) 1796 (sef 28 Mawrth) |
Argyhoeddi Ann (a hithau bron yn 20 oed) wrth wrando
ar y gweinidog Annibynnol, Benjamin Jones (1756-1823), Pwllheli
yn pregethu yn Llanfyllin. Roedd haf 1796 yn adeg wlyb a
stormus, a llawer o fellt a llifogydd yn ôl pob sôn.
Ymddengys iddi fod yn adeg ddigon stormus yn hanes ysbrydol
Ann yn ogystal. |
Pasg 1796 |
Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Oruchwyliwr y Tlodion
dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
Haf 1796 |
John Hughes, Pontrobert yn cael tröedigaeth ac yn
ymuno â’r seiat Fethodistaidd ym Mhen-llys. |
1796 (?) |
Tröedigaeth Edward, brawd Ann, at y Methodistiaid. |
Nadolig 1796 |
Ann yn mynd ar ei phen ei hun i wasanaeth y plygain yn
Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa fore’r Nadolig, a’i
dau frawd yn mynd i wasanaeth y Methodistiaid. Parodd sylwadau’r
curad wedi’r gwasanaeth iddi gefnu ar yr Eglwys a
chwilio am gymorth ysbrydol yn rhywle arall. |
|
1797 |
1797 |
Ann yn ymuno â’r seiat Fethodistaidd ym Mhontrobert. |
Pasg 1797 |
Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Warden Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
5 Rhagfyr 1797 |
Geni Gwen Jones, trydydd plentyn Elizabeth a Thomas Morris,
a’i bedyddio yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol. |
|
1798 |
c. 1798 (?) |
Pregethwyr Methodistaidd yn dechrau cynnal oedfaon yn
Nolwar Fach. |
c. 1798 (?) |
Tad Ann yn ymuno â’r Methodistiaid. |
3 Mai 1798 |
Ann yn ysgrifennu nodyn ar gopi o lyfr Benjamin Jones,
Pwllheli, Athrawiaeth y Drindod (1793). |
27 Awst 1798 |
Jane, chwaer Ann, a Thomas Jones, siopwr o Lanfyllin,
yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
17 Tachwedd 1798 |
Edward, brawd Ann, yn priodi Elizabeth Savage yn Eglwys
Llangynyw, ac Ann yn un o’r tystion swyddogol. Daeth
Elizabeth i fyw at ei gŵr i Ddolwar Fach. |
|
1799 |
1799 |
John Hughes, Pontrobert yn lletya yn Nolwar
Fach am rai misoedd tra oedd yn cadw un o ysgolion cylchynol
Thomas Charles yn yr ardal. |
Pasg 1799 |
John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Wardeniaid
Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd am ddwy
flynedd, hyd Basg 1801. Y warden arall yn y cyfnod hwn oedd
William Jones, Llaethbwlch. (Ai’r un William Jones,
Llaethbwlch, oedd hwn â hwnnw a fu’n gynghorwr
gyda’r Methodistiaid ym Mhontrobert? Y tebyg yw ei
fod yn frawd i Thomas Jones, y siopwr o Lanfyllin a brawd-yng-nghyfraith
Ann.) |
16 Ebrill 1799 |
Cyhoeddi’r rhifyn cyntaf o gylchgrawn Thomas Charles
o’r Bala a Thomas Jones, Dinbych, Trysorfa Ysprydol.
Cafwyd pum rhifyn arall yn y gyfrol gyntaf, ym Mehefin 1799,
Hydref 1799, Ionawr 1800, Hydref 1800 a Rhagfyr 1801. Yna
bu bwlch hyd Mawrth 1809 cyn cyhoeddi rhifyn cyntaf yr ail
gyfrol. Roedd copi o gyfrol gyntaf y cylchgrawn ym meddiant
John Hughes, Pontrobert, ac yn sicr ddigon, byddai teulu
Dolwar yn disgwyl yn awchus am bob rhifyn. |
22 Gorffennaf 1799 |
Derbyn John Davies yn ddarpar-genhadwr gan Gymdeithas
Genhadol Llundain. |
27 Hydref 1799 |
Bedyddio John, mab Edward ac Elizabeth Thomas, Dolwar
Fach, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1800 |
1800 |
Codi Capel Uchaf, Pontrobert, ar gyfer seiat y Methodistiaid
yno. |
Gwanwyn (?) 1800 |
John Hughes, Pontrobert yn mynd yn athro i Ddyffryn Ddyfi.
Ymddengys iddo fod yn athro ysgolion cylchynol yng ngorllewin
Maldwyn, yn yr ardal rhwng Cemais a Llanidloes, am y 4-5
mlynedd nesaf. |
3 Mawrth 1800 |
Geni Jane, pedwerydd plentyn Elizabeth a Thomas Morris,
a’i bedyddio yn Eglwys Llangadfan ymhen deuddydd. |
8 Mai 1800 |
John Davies yn anfon llythyr at seiat Pontrobert o Portsmouth,
ychydig ddyddiau cyn dechrau ar ei fordaith i Dahiti. Cedwir
copi John Hughes, Pontrobert ohono yn y Llyfrgell Genedlaethol
(LlGC, Archifau’r M.C., 5864). |
15 Tachwedd 1800 |
Claddu Harri Parri o Graig-y-gath, athro barddol tad
Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
28 Tachwedd 1800 |
Llythyr cyntaf Ann at John Hughes (Llythyr I). Mae copïau
ar gael o chwe llythyr arall a ysgrifennodd Ann at John
Hughes, Pontrobert. Er mai dim ond dau o’r chwech
sydd wedi’u dyddio, rhaid eu bod oll wedi eu hysgrifennu
cyn ei phriodas yn Hydref 1804, gan mai ‘Ann Thomas’
yw’r enw a roddwyd wrthynt. Mae lle i gredu eu bod
oll yn gynnyrch y cyfnod rhwng diwedd Tachwedd 1800 a haf
1802. |
|
1801 |
c. 1801 |
Derbyn Thomas Griffiths (gŵr Ann maes o law) yn aelod
o’r seiat Fethodistaidd a gynhelid yn ei gartref yn
y Cefn-du, plwyf Cegidfa ac yntau’n 24 oed. Cafodd
ei ethol yn flaenor yn fuan iawn wedi hynny. |
17 Chwefror 1801 |
Llythyr gan Ann at John Hughes (Llythyr II). |
Mawrth 1801 |
Edward, brawd Ann, yn cymryd tenantiaeth ffarm fechan
Gwern Fawr ym mhlwyf Llangynyw yn agos i Bontrobert. |
Pasg 1801 |
Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Warden Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
Mai 1801 |
Ruth Evans yn dod yn forwyn i Ddolwar Fach (i gymryd
lle gwraig Edward, mae’n debyg). |
12 Mai 1801 |
Ann yn un o dystion swyddogol priodas Thomas Morris a
Margaret Humphreys, y ddau o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa,
yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
|
1802 |
30 Mawrth 1802 |
Geni Thomas, pumed plentyn Elizabeth a Thomas Morris,
a’i fedyddio yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol. |
Gwanwyn 1802 |
Pedwar gŵr ifanc yn dechrau pregethu gyda’r Methodistiaid
Calfinaidd yn sir Drefaldwyn. Daeth y pedwar ohonynt yn
ffigurau amlwg ym Methodistiaeth y sir: |
|
(i) John Hughes, Pontrobert (1775-1854)
Cafodd fagwraeth eithriadol o dlawd ym Mraich-y-waun, ardal
i’r gogledd o Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Daeth
yn un o arweinwyr amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd yng
ngogledd Cymru. Priododd Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach,
yn 1805. Buont yn byw am y rhan fwyaf o’u bywyd priodasol
hir yn y tŷ bychan sydd ynghlwm wrth Gapel Uchaf Pontrobert.
Mae John Hughes yn ffigur allweddol yn hanes diogelu emynau
a llythyrau Ann, a’i ysgrif fywgraffyddol arni, a
gyhoeddwyd gyntaf yn 1846, yw’r ffynhonnell bwysicaf
am ei bywyd.
|
|
(ii) Evan Griffiths (1778-1839)
Brawd Thomas Griffiths, gŵr Ann. Ganed ef yn y Rhos-fawr,
plwyf Meifod, 12 Mawrth 1778. Symudodd y teulu i’r
Cefn-du, plwyf Cegidfa, pan oedd yn wyth oed, ond symudasant
yn ôl i blwyf Meifod, i’r Ceunant, yn 1804,
ac yno y treuliodd weddill ei oes.
|
|
(iii) William Jones (1770-1837)
Fe’i ganed yn Nhrawsfynydd yn sir Feirionnydd a chafodd
dröedigaeth yn Llundain dan weinidogaeth William Romaine.
Symudodd i blwyf Llanwrin yn Nyffryn Dyfi yn 1794 pan briododd
Susan Watkins, Mathafarn. Yn 1805 symudodd i Ddolyfonddu
yn yr un plwyf, ac yno y bu weddill ei fywyd.
|
|
(iv) Abraham Jones (1775-1840)
Ganed a magwyd ef ym mhlwyf Trefeglwys, gerllaw Llanidloes.
Symudodd i sir Faesyfed yn 1805, ond symudodd oddi yno i
Lanfyllin pan briododd, ar 8 Chwefror 1807, Jane Jones,
gwraig weddw a gadwai siop yn y dref honno. Jane chwaer
hynaf Ann.
|
18 Ebrill 1802
(bore Sul y Pasg) |
John Hughes, Pontrobert yn pregethu am y tro cyntaf,
a hynny yn Llanidloes ar y Sul wedi Cwrdd Misol y Methodistiaid
Calfinaidd yno. Mewn llythyr ato yr adeg honno (Llythyr
VI), cyfeiria Ann yn llawen at y ffaith ei fod wedi cael
caniatâd i ddechrau pregethu. |
Pasg 1802 |
John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Oruchwylwyr
y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal
y swydd hyd Basg 1803. |
Mehefin 1802 |
Er mai 1805 yw’r dyddiad ar wynebddalen cyfrol
gyntaf Geiriadur Ysgrythurol dylanwadol Thomas
Charles o’r Bala, yr oedd wedi dechrau ymddangos yn
rhannau o tua Mehefin 1802 ymlaen. Ymddangosodd y pum rhan
hyd at y gair ‘Dannedd’ rhwng haf 1802 a gwanwyn
1805, a’r gweddill ar ôl marw Ann. Anodd credu
na fyddai’r pum rhan gyntaf hyn wedi’u byseddu’n
aml ganddi; ond mae’r Geiriadur ar ei hyd
yn ddrych o un o’r dylanwadau meddyliol ac eneidiol
pennaf a fu ar Ann, ac yn gyfrol bwysig o ran deall ei meddwl
a’i gwaith. |
c. 1802 (?) |
Ann yn dechrau cyfansoddi emynau. |
c. 1802 (?) |
Ann yn anfon llythyr at Elizabeth Evans, Bwlch Aeddan
(Llythyr VIII). Fferm ym mhlwyf Cegidfa yw Bwlch Aeddan,
a byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal yno gan y Methodistiaid
yn y cyfnod hwnnw. Mae’n debyg mai morwyn ar y fferm
oedd Elizabeth Evans. Credir yn gyffredinol ei bod yn chwaer
i Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach. Dyma’r unig lythyr
sydd wedi goroesi yn llaw Ann ei hun. Fe’i cedwir
yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 694D). Tua dechrau’r
ugeinfed ganrif, sylwodd Elfed (H. Elvet Lewis; 1860-1953)
ar ddyfrnod yn y papur yr ysgrifennwyd y llythyr arno. Roedd
y dyddiad 1801 arno. Braidd y byddai’r llythyr wedi’i
ysgrifennu cyn 1802, felly. Gan mai ‘Ann Thomas’
a arwyddodd y llythyr, rhaid ei bod wedi’i ysgrifennu
cyn ei phriodas yn Hydref 1804. |
14 Rhagfyr 1802 |
John Parry a Griffith Siôn yn pregethu yn Nolwar
Fach gyda’r hwyr, ac yn cael oedfa hynod iawn yno.
Testun pregeth John Parry oedd Caniad Solomon 5:10, ‘Fy
anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil’
(cf. Emynau XII a XIII). Athro yng Nghaergybi oedd John
Parry (1775-1846) ar y pryd. Symudodd i ddinas Caer yn 1806,
a dod yn bregethwr a chyhoeddwr dylanwadol gyda’r
Methodistiaid. Gwehydd o sir Gaernarfon, ac un o bregethwyr
cynharaf y Methodistiaid yn y sir honno, oedd Griffith Siôn.
Bu’r pregethwr Methodist enwog, John Elias (1774-1841),
yn gweithio iddo fel gwehydd pan oedd yn ifanc. Symudodd
Griffith Siôn i ardal y Sarnau ger y Bala tua 1802. |
|
1803 |
4 Mawrth 1803 |
John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans. Cedwir
ei gopi ef o’r llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol
(LlGC, Archifau’r M. C. 5863). |
Pasg 1803 |
Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Oruchwyliwr y Tlodion
dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
27 Mai 1803 |
John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans. Cedwir
ei gopi ef o’r llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol
(LlGC, Archifau’r M. C. 5863). |
28 Mai 1803 |
Cais at Lys Esgob Llanelwy i gofrestru Dolwar Fach yn
lle ar gyfer addoliad cyhoeddus, wedi’i arwyddo gan
saith o wŷr ‘dissenting from the Church of England’,
sef John Evan Thomas a’i ddau fab, John ac Edward,
William Jones, John Griffiths, Thomas Morgan a John Thomley.
Cofrestrwyd yr adeilad ar 9 Mehefin 1803. |
9 Gorffennaf 1803 |
John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans o’r
Berth-las, Trefeglwys. Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol
(LlGC, Archifau’r
M. C. 5869). |
1803 (?) |
Ychydig cyn ei farw, John Evan Thomas yn gwneud copi
o nifer o emynau Ann ar ddalennau gwynion a gydrwymwyd i’r
diben hwnnw â chopi Jane, ei ferch yn Llanfyllin,
o ‘lyfr hymnau’ J. R. Jones, Ramoth. Gall hwn
fod yn gyfeiriad at lyfr a gyhoeddodd J. R. Jones yn 1801
neu, yn debycach, at ei Casgliad o Salmau a Hymnau
(Caerlleon: W. C. Jones, 1802). Mae rhai copïau o’r
gyfrol hon wedi’u dyddio 1803, a all olygu fod rhai
copïau wedi ymddangos o’r wasg yn niwedd 1802
ac eraill ar ddechrau 1803. |
|
1804 |
23 Chwefror 1804 |
Claddu John Evan Thomas ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa
yn 67 oed. Cafodd ei farwolaeth sydyn effaith ddwys ar Ann,
nes peri’r gwanychu ar ei hiechyd a barhaodd weddill
ei hoes. |
Yn gynnar yn 1804 |
Thomas Griffiths a’i deulu yn symud i’r Ceunant,
Meifod. Cyn hir, dechreuwyd cynnal cyfarfodydd pregethu
yno gan y Methodistiaid, a chofrestrwyd y tŷ ar gyfer addoliad
cyhoeddus ar 12 Gorffennaf 1804. |
1804 |
Cyhoeddi Talfyriad o Hanes Mr. Kicherer (Y Bala:
Jones & Co.), sy’n rhoi peth o hanes cenhadaeth
J. J. Kicherer ar ran Cymdeithas Genhadol Llundain yn neheudir
Affrica, gan gynnwys ei waith ymhlith yr Hotentotiaid a’r
Coraniaid. Thomas Charles oedd awdur y llyfr yn ôl
pob tebyg, ac aeth i ail argraffiad yn yr un flwyddyn. Ar
ddiwedd y llyfr ceir hanes sefydlu y ‘Feibl Gymdeithas’
yn Llundain ar 7 Mawrth 1804; ceir cyfeiriad hefyd at John
Davies a oedd erbyn hynny ‘yn llenwi ei le yn hardd
ac yn ddefnyddiol’ fel cenhadwr yn Tahiti. Yn ôl
pob tebyg, tuag adeg cyhoeddi’r llyfr hwn y cyfansoddod
Ann ei ‘hemyn cenhadol’, ‘Cenhadon hedd,
mewn efengylaidd iaith’ (Emyn XXIV). Roedd copi o’r
llyfr yn llyfrgell John Hughes, Pontrobert. |
10 Gorffennaf 1804 |
Bedyddio Edward, ail blentyn Edward ac Elizabeth Thomas,
yn Eglwys Llangynyw. |
1 Hydref 1804 |
Geni Ann, chweched plentyn Elizabeth a Thomas Morris,
a’i bedyddio ar 6 Hydref yn Eglwys Llangadfan. |
Hydref 1804 (?) |
John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ann Thomas.
Nid oes dyddiad wrtho. Fe’i hysgrifennwyd, yn ôl
pob tebyg, rhwng sasiwn gan y Methodistiaid Calfinaidd a
gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddiwedd Medi 1804 a phriodas
Ann ar 10 Hydref 1804. Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol
(LlGC 3292E). |
Hydref 1804 |
John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans o Lanidloes.
Dyddiwyd y llythyr ‘Hydref 1804’. Rhaid ei fod
wedi’i ysgrifennu cyn i Ann briodi ar 10 Hydref am
ei fod yn cyfeirio ati fel Ann Thomas. Cedwir y llythyr
yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC, Archifau’r M. C.
5870). |
10 Hydref 1804 |
Priodas Ann (28 oed) a Thomas Griffiths (a oedd bum mis
yn iau na hi) yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
7 Tachwedd 1804 |
Claddu Thomas Jones, ‘Siop Cornel’, Llanfyllin,
brawd-yng-nghyfraith Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
13 Tachwedd 1804 |
John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans o Lanidloes.
Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 3292E). |
|
1805 |
7 Mai 1805 |
John Hughes a Ruth Evans yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa,
a Thomas ac Ann Griffiths yn dystion swyddogol. |
13 Gorffennaf 1805 |
Geni Elizabeth, merch Thomas ac Ann Griffiths,
a’i bedyddio’r un diwrnod gan Jenkin Lewis (1749-1805),
gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin. |
31 Gorffennaf 1805 |
Claddu Elizabeth, merch Thomas ac Ann Griffiths, ym mynwent
Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. |
12 AWST 1805 |
CLADDU ANN YM MYNWENT EGLWYS LLANFIHANGEL-YNG-NGWYNFA
YN 29 OED |
|
Y Sul dilynol, traddododd John Hughes bregeth angladdol
iddi yng Nghapel Uchaf Pontrobert ar y testun ‘Canys
byw i mi yw Crist, a marw sydd elw’ (Philipiaid 1:21). |
|
1806 |
1806 |
Cyhoeddi emynau Ann yn Casgliad o Hymnau (Y
Bala: R. Saunderson, 1806), gyda rhagair gan Thomas Charles
a’r emynau wedi eu golygu ganddo ef a Robert Jones
(1745-1829), Rhos-lan, yn ôl pob tebyg. Ymddangosodd
rhai o’r emynau tua’r un adeg yn ail argraffiad
casgliad emynau Robert Jones, Grawn-sypiau Canaan
(Y Bala: R. Saunderson, 1805-06). 1805 yw’r dyddiad
ar wynebddalen yr argraffiad hwn o Grawn-sypiau Canaan,
ond yn 1806 yr ymddangosodd gan mai dyna’r dyddiad
a geir yn y coloffon ar ddiwedd y llyfr. |
Mawrth 1806 |
Richard Davies yn cymryd tenantiaeth Dolwar Fach. (Enw
John Evan Thomas sydd ar Lyfrau’r Rhent rhwng 1804
a 1806 er iddo farw yn Chwefror 1804.) Mae disgynyddion
Richard Davies a’i wraig, Mary, yn byw yn Nolwar Fach
hyd heddiw (er bod y tŷ presennol yn ddiweddarach na
chyfnod Ann Griffiths). |
Mai 1806 |
Thomas Griffiths yn symud o Ddolwar Fach i fyw at ei
fam a’i frawd i’r Ceunant, Meifod, gan adael
John Thomas yn Nolwar gyda’r pâr ifanc, Richard
a Mary Davies. |
|
1807 |
3 Ionawr 1807 |
Claddu John Thomas, brawd Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.
Ef oedd yr olaf o’r teulu i fyw yn Nolwar Fach. |
|
1808 |
8 Ebrill 1808 |
Thomas Griffiths yn marw o’r darfodedigaeth a’i
gladdu ym mynwent Eglwys Meifod ar 12 Ebrill 1808. |
|