jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Golygydd: E. Wyn James

IIIIII | IV | V | VIVIIVIII

 

LLYTHYR I

Ann Thomas at John Hughes

28 Tachwedd 1800

Garedig frawd,

     Cefais hyn o gyfleustra i anfon atoch yr ychydig leiniau hyn, er mwyn dangos fy mharodrwydd i dderbyn ac ateb eich llythyr sylweddol, fel ag yr wyf fi yn cwbl gredu mai ym maes Boas y bu i chwi loffa’r tywysennau llawn a bendithiol a ddanfonasoch imi, gan fy ngorchymyn i’w rhwbio ac ymborthi arnynt; ac yr wyf fi yn meddwl iddynt gael cymaint o effaith ar fy meddwl â gwneuthur imi ocheneidio am y Graig, oblegid ni allasech anfon dim mwy perthnasol i fy nghyflwr i, yr hyn oedd eich amcan, am y gwyddech fwy o’m hanes ym mhob trueni na neb arall.
     Mae’n dda, dda gennyf glywed am eich parhad mewn myfyrdod ar eich cyflwr ac yn y Gair, ac mi a ddymunwn eich llwyddiant yn y cwbl.
     Amdanom ni yn y Bont, o ran iechyd corfforol fel arferol; o ran ysbrydoedd, mae’r asoseiat fel corff llawn mwy deffrous, a’r weinidogaeth tan arddeliad yn gyffredinol.
     Nid oes gennyf fi yn bresennol nemor i’w ddweud am neb personau yn neilltuol, ond byddai dda gennyf adrodd fy helynt fy hun. Cefais rai treialon go smart, a gwyntoedd cryfion, nes imi bron golli fy anadl ar y rhiwiau; ond tybiais fy nwyn i fyny i’r bryn wrth y ddwy gadwyn ganlynol: ‘A Gŵr a fydd yn ymguddfa,’ &c.; ‘Tyred, fy mhobl, – a llecha,’ &c. Bu yn dawel a gwresog dros dro.
     Cefais dreial arall mewn perthynas i ddwyn amser yn Eglwys Dduw, gan benderfynu fy nghrefydd o’r dechrau ar gamddibenion, a meddwl rhoi i fyny. Fe a’m codwyd fel hyn: ‘Am fod i ni Archoffeiriad mawr,’ &c. Ond yn bresennol, pur gymylog ac amheus am fy mater, a churo ar fy meddwl pa un a ddechreuwyd gwir waith arnaf ai naddo. Ond yn wyneb pob peth, hyn a ddywedaf: ‘Pe lladdai Efe fi,’ &c.
     Cawsom freintiau gwerthfawr y dyddiau a basiodd, yr ordeinhad ddwywaith, ag arogl esmwyth ar doriad y bara.
     Garedig frawd, bu dda gennyf glywed y pwynt ynghylch fod amgylchiadau Eglwys Dduw yn cael eu hamlygu i broffeswyr, am fy mod yn meddwl nad yw hynny ddim yn beth hollol ddieithr i minnau yn y dyddiau terfysglyd hyn o nithio ar Seion. Mae rhwymau neilltuol ar bob Cristion deffrous yn y mater i alaru wrth weled ‘cerrig y cysegr ym mhen pob heol’, megis puteinio, lladrata a’r cyfryw. Dymunaf arnoch chwithau gymeryd priodasferch yr Oen at orsedd gras. Ocheneidiwch lawer am ei hadferiad hi. Cymhellwch hi ar ei Phriod, oblegid ‘ni wrthyd Duw ei bobl, y rhai a adnabu Fe o’r blaen’, am fod y cyfamod yn gyfamod trwy lw, er mai putain yw hi.
     Dwy ysgrythur a fu ar fy meddwl yn neilltuol, un a grybwyllwyd uchod, a’r llall fel hyn: ‘Y mae’r ffiol yn llaw’r Arglwydd, a’r gwin sydd goch, ac yn llawn cymysg, ac fe dywelltir ohono; a holl annuwiolion y tir a yfant o’i gwaddod hi.’ Hi a wawriodd ar fy meddwl; oblegid os bydd i un o’r ffiolau y sonnir amdanynt gael eu tywallt, ni chaiff y plant ond eu pyrjio am eu bod yn llaw Tad. Ond gweddïwn lawer am help i ddioddef y driniaeth, bydded mor chwerw ag y bo, i’n cael i’n lle.
     Bellach mi a ddibennaf; a hyn oddi wrth eich cyd-bererin yn yr ymdaith tua thragwyddoldeb.

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR II

Ann Thomas at John Hughes

17 Chwefror 1801

Garedig frawd yn yr Arglwydd,

     Cefais gyfle i anfon hyn o leiniau atoch, i’ch gwneud yn adnabyddus fy mod wedi derbyn eich llythyrau yn garedig, gan obeithio y bydd i’r pethau pwysfawr sydd ynddynt gael lle yn fy meddwl.
     Y mae’n dda gennyf glywed eich helynt chwithau mewn perthynas i’ch cyflwr. Gwerthfawr yw ‘cyfaill a lŷn’, fel y dywedasoch.
     Daliodd gair ar fy meddwl, fe allai y byddai yn fuddiol imi ei grybwyll, ar y mater: ‘Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn?’ Meddyliais fod angen i fynd heibio i frodyr a grasusau, a charu y Rhoddwr uwchlaw y rhodd.
     Gair arall a ddaliodd ar fy meddwl: ‘Prŷn y gwir, ac na werth.’ Fe ddaeth i fy meddwl fy mod yn fodlon i roddi yr hyn oll ar a feddwn, fy na a fy nrwg, am y Mab mewn undeb priodasol. Fy meddwl yw fod pob gair segur, a phob ysgafnder ysbryd, a phob ymddygiad ag sydd yn ymddangos yn groes i sancteiddrwydd efengylaidd, yn cwbl wadu nad adwaenom Iesu Grist. Ond yn wyneb ein mawr drueni, mor werthfawr yw meddwl am y gair hwnnw: ‘Yr Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr.’
     Rwyf yn llonni wrth feddwl fod rhyddid i bechadur sôn cymaint am Iesu Grist wrth orsedd gras, y nefoedd yn gwenu ac uffern yn crynu. Mawrhawn ein braint ein bod wedi adnabod dim o effeithau’r cyfamod tragwyddol wedi ei luniaethu fry. O! am gael aros dan ddiferion y cysegr hyd yr hwyr a chydnabod mai gwerth gwaed ydynt. Hyn a fo yn dropio pechaduriaid i’r llwch. O! am fod wrth draed ein Duw da tra bôm yn y byd.
     Ymhellach, mi gaf anfon ychydig o helynt yr asoseiat yn y Bont. Yn y cyffredin mae yn lled wlithog ac yn lled ddeffrous ar y rhan fwyaf o’r eglwys yn bresennol. Fy meddwl yw nad yw hi ddim yn ddieithr i’r gwin sydd yn cael ei rannu ymhlith y disgyblion yma ar eu taith.
     Os dywedaf am fy helynt fy hun, mi a ddymunaf ddweud yn dda am Dduw am fy nghofio i yn wyneb llawer o amheuon. Ni welais i erioed gymaint o achos i lefain am y Graig ar bob tywydd; ac os marw, os byw, hyn yw fy ngwaedd: ‘O! am fy nghael ynddo Ef heb ddim o’m cyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r ddeddf.’
     Clywais gyffelybiaeth am siopwr yn mynd i Gaer i brynu gwerth dau cant o bunnau o gwds; cael bil parsel; hwnnw yn crogi yn y siop; enwau a maintioli’r eiddo arno; ac i ryw ŵr ddyfod i mewn a gofyn am werth coron o un ohonynt; yntau yn ateb, ‘Ni fedda’ werth ceiniog ohono.’ Er y gall llawer ymddangos yn grand mewn proffes, eto yn wyneb profedigaeth gofynnwch, ‘Pa le y mae eu ffydd hwynt?’ Rhoddwyd bloedd: ‘Blant bach! llefwch am i’r wagen ddyfod adre’; y mae hi’n dromlwythog, sef gweinidogion y Gair.’
     Bellach terfynaf; a hyn oddi wrth un sydd yn chwenychu dymuno llwyddiant fforddolion Seion.

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR III

Ann Thomas at John Hughes

Garedig frawd,

     Cefais hyn o gyfleustra i ysgrifennu atoch, gan obeithio eich bod yn iach, ac i’ch gwneuthur yn adnabyddus fy mod wedi derbyn eich llythyr gwerthfawr. Mi ddymunwn nad esgeulusech anfon pethau buddiol, gan beidio sylwi ar ein hesgeulustra ni, am y gwyddoch yr achos, diffyg meddu ar nemor o werth ei anfon.
     Garedig frawd, buasai yn dda gennyf eich gweled lawer gwaith, mewn cyfyngder meddwl a than gnofeydd ac amheuon am wirionedd yr ymweliadau, a’r datguddiad o Gyfryngwr i ryw raddau, yn wyneb damniol, golledig gyflwr. Ac er trio llawer o heolydd, ffaelu dod i ben am fy amcan. Ond yn heol myfyrdod cefais wers oddi wrth yr hyn yr oedd chwegrwn Moses yn ei gynghori, i osod 60 o flaenoriaid i farnu’r bobl mewn pethau cyffredin, golau, ond dwyn y pethau mawrion, tywyll, ato ef. Meddyliais fod yn rhaid i fy nghyflwr dryslyd i fynd heibio i wylwyr y caerau, a phawb, at Dduw yn unig. Mae’n gysur gennyf feddwl am hyn: pan fyddo fy nghyflwr dywylla’ i mi a’m brodyr, mae yn glir olau yn llys yr Archoffeiriad. Diolch byth am hyn!
     Cefais lawer o bleser wrth fyfyrio am y wraig Sunamees yn neilltuo ’stafell ar y mur i ŵr Duw orffwys pan ddelai heibio, gan osod gwely, bwrdd, stôl, a chanhwyllbren. Fe allai fod y wraig honno, gan ei hiraeth am y proffwyd, yn mynych droedio yr ystafell ac yn cael ei llonni mewn disgwyliad am y gŵr. Ond beth bynnag am hynny, y mae’n gysur calon i gredadun, yn absenoldeb gwedd wyneb ei Arglwydd, fod y dodrefn ar ôl mewn amryw ystyriaethau. Yn un peth, mae yn arwydd ei fod heb ei roi i fyny. Peth arall, mae yn lojing rhy boeth i ddiafol. ‘Pan ddêl y gelyn i mewn fel afon gref, Ysbryd yr Arglwydd a’i hymlid ef ymaith.’ Ni all gymaint â chodi ei ben yn nheml Dduw heb grynu, nac edrych ar ddim o’i mewn, ond ar ôl ei draed ei hun, heb arswydo. Am hynny, llefwn lawer am i’r Ysbryd Glân wneud ei gartref yn ein cyflwr.
     Garedig frawd, cryn dywyll yw hi yn bresennol ar eglwys y Bont, dan ergydion y byd, a gwrthgilwyr. Cefais bleser mawr un noswaith yn wyneb y pethau hyn wrth feddwl beth y mae’r Ysbryd Glân yn ei ddweud amdani. Dwy ysgrythur a fu ar fy meddwl: ‘Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O! ddinas Duw’; ‘Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn.’
     Hyn yn bresennol oddi wrth eich chwaer,

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR IV

Ann Thomas at John Hughes

Garedig frawd,

     Bu dda iawn gennyf lawer gwaith anfon fy helynt atoch. Cefais lawer o bleser a bendith wrth ddarllen eich llythyrau, yr hyn sydd anogaeth gref iawn imi fod yn daer arnoch nad atalioch eich llaw.
     Annwyl frawd, mae’r rhyfel mor boeth yn awr ag erioed, gelynion oddi fewn, gelynion oddi allan. Ond o’r cwbl, pechod y meddwl sydd yn gwasgu drymaf arnaf.
     Neilltuol dda gennyf feddwl am y gair hwnnw heddiw: ‘Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad.’ Rhyw beth newydd o garu athrawiaeth y glanhau. Y gair hwnnw ar fy meddwl: ‘A gwaed Iesu Grist ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.’ Ni bu erioed fwy o hiraeth arnaf am fod yn bur. Y gair hwnnw ar fy meddwl: ‘Y tŷ, pan adeiladwyd, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu.’ Byddaf yn meddwl weithiau nad oes arnaf eisiau newid fy ngwisg byth, ond chwant bod yn lân yn fy ngwisg.
     Byddai’n dda iawn gennyf gael aros mwy yn y cysegr, fel y soniasoch yn helaeth a gwerthfawr. Yr wyf yn disgwyl yn aml ryw dywydd blin i’m cyfarfod, er nas gwn pa beth. Y gair hwnnw heno ar fy meddwl: ‘Trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob,’ &c. Am help i aros gyda Duw, pa beth bynnag a’m cyfarfyddo! A diolch byth am fod y ffwrnes a’r ffynnon mor agos i’w gilydd!
     Nid oes dim neilltuol yn chwaneg ar fy meddwl yn bresennol, ond cofiwch amdanaf yn aml, a brysiwch anfon ataf.
     Wyf, eich annheilwng chwaer yn caru eich llwyddiant mewn corff ac ysbryd,

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR V

Ann Thomas at John Hughes

Garedig frawd yn yr Arglwydd,

     Yr wyf yn ysgrifennu atoch yn bresennol am fod rhediad fy meddwl, yn wyneb tywydd o bob natur, am ddweud fy hanes i chwi, annwyl frawd.
     Annwyl frawd, y peth mwyaf neilltuol sydd ar fy meddwl yw y mawr rwymau sydd arnaf i fod yn ddiolchgar i’r Arglwydd am fy nal yn wyneb y gwyntoedd a’r llifddyfroedd. Gallaf ddweud na chadd fy meddyliau i erioed eu dal â’r un graddau o ofnau â’r dyddiau hyn; ond yn wyneb y cwbl rwyf yn meddwl hongian yn dawel wrth yr addewid werthfawr honno: ‘Pan elych trwy’r dyfroedd, mi a fyddaf gyda thi.’ Yr wyf yn meddwl ei bod yn ddigon i’m cynnal rhwng deufor-gyfarfod. Diolch byth am Dduw yn llond ei addewidion!
     Annwyl frawd, y peth mwyaf gwasgedig sydd ar fy meddwl yw y pechadurusrwydd o fod dim a welir yn mynd â blaenoriaeth fy meddwl. Yr wyf yn cywilyddio’n barchus, ac yn llawenhau mewn syndod, wrth feddwl fod ‘yr Hwn y mae’n ddarostyngiad iddo edrych ar y pethau yn y nefoedd’, eto wedi ei roi ei hun yn wrthrych serch i greadur mor wael â myfi.
     Yn yr olwg ar y dianrhydedd ar Dduw o roi’r lle blaenaf i ail bethau, dyma fy meddwl yn syml: os rhaid i natur gael ei gwasgu i afael marwolaeth oherwydd ei gwendid i ddal t’w’niadau tanbaid haul profedigaethau, byddaf yn meddwl weithiau y caf edrych ar fy ysbeilio yn llawen o ’mywyd naturiol yn hytrach (os rhaid) nag i ogoniant fynd tan gwmwl wrth i natur gael ei rhwysg a’i gwrthrychau.
     Gair hwnnw ar fy meddwl heno: ‘Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â’r hon y coronodd ei fam ef ar ddydd ei ddyweddi, a dydd llawenydd ei galon ef.’ Yr wyf yn meddwl fod galwad uchel a neilltuol ar holl ddeiliaid y cyfamod o’u tai byrddiedig eu hunain i weled eu Brenin ‘yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor’.
     Nid rhyfedd fod yr haul yn cuddio ei belydrau pan oedd ei Greawdwr dan hoelion. Mae’n syndod i’m meddwl pwy oedd ar y groes: yr Hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân yn treiddio trwy’r nefoedd a daear ar yr un moment yn methu canfod ei greaduriaid, gwaith ei ddwylo. Y mae fy meddwl yn boddi gormod i ddweud dim yn chwaneg ar y mater. Ond wrth edrych ar fawredd y Person, nid rhyfedd fod y gair hwnnw ar lawr: ‘Yr Arglwydd a fydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder Ef; Efe a fawrha’r gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus.’
     Annwyl frawd, nid rhyfedd fod y gair hwnnw ar lawr: ‘Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio.’
     Annwyl frawd, nid oes dim neilltuol ar fy meddwl i helaethu yn bresennol. Ond hyn a ddywedaf wrth ddibennu: mi a ddymunwn fod y rhan sy’n ôl o’m bywyd yn gymundeb mor agos na pherthynai imi byth mwy ddywedyd, ‘Af a dychwelaf.’ Myfi a feddyliwn, ond cael hyn, fy mod yn dawel i gyfarfod â rhagluniaeth yn ei gwg a’i chroesau.
     Dymunaf neilltuol ran yn eich gweddïau. Cofiwch anfon gyda brys. Mae arnaf hiraeth am lythyr.
     Wyf, eich caredig chwaer,

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR VI

Ann Thomas at John Hughes

[Ebrill 1802]

Garedig frawd a thad yn yr Arglwydd,

     Mi dderbyniais eich llythyr ddoe, a da iawn oedd gennyf ei gael, gan obeithio y bydd y pethau gwerthfawr sydd ynddo o fendith imi. Bu dda iawn gennyf am yr ysgrythur y sylwasoch arni yn llythyr fy mrawd.
     Ond i fynd ymlaen i adrodd gronyn o’m helynt presennol i chwi. Cryn dymestlog yw hi arnaf ers tro mawr. Cael llawer iawn o siomedigaethau ynwyf fy hun yn barhaus. Ond y mae’n rhaid imi ddywedyd hyn, fod pob treialon, pob gwyntoedd o bob natur, yn cydweithio fel hyn, sef i fy nwyn i weled mwy o fy nhruenus gyflwr wrth natur, a mwy o’r Arglwydd yn ei ddaioni a’i anghyfnewidioldeb tuag ataf.
     Bûm yn ddiweddar yn neilltuol bell mewn puteindra ysbrydol oddi wrth yr Arglwydd, ac eto yn dal i fyny yn wyneb gweinidogaeth fel un ‘yn gwarchod gartref, yn dda,’ ac yn aros yn y cymundeb. Ond er fy holl sgìl fe dorrodd yr Arglwydd o’i ddaioni yn y geiriau hyn: ‘Os wyf fi Dad, pa le y mae fy anrhydedd? os wyf fi Feistr, pa le y mae fy ofn?’ Diolch i Dduw byth am bils y nef i fynd â’r afiechyd i gerdded!
     Yr oedd fy ystumog mor wan na allwn mo’r ymborthi ar drugaredd rad, yn yr olwg ar fy llwybr – ‘wedi ymadael â Duw, ffynnon pob cysuron sylweddol, a chloddio i mi fy hun bydewau toredig’. Y gair yma a’m cododd ronyn ar fy nhraed o’r newydd: ‘Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf.’ Y fi yn myned ar grwydr, yntau yn Fugail; y fi yn analluog i ddychwelyd, yntau yn Arglwydd hollalluog. O! Graig ein hiechydwriaeth, hollol ymddibynnol arno ei hun mewn perthynas i achub pechadur. Garedig frawd, myfi a ddymunwn gael bod byth dan y driniaeth, bydded mor chwerw ag y bo.
     Gair arall a fu o fendith neilltuol i mi yn ddiweddar wrth geisio dweud wrth yr Arglwydd am yr amrywiol bethau oedd yn fy ngalw ar eu hôl. Dyma’r gair: ‘Trowch eich wyneb ataf fi, holl gyrrau’r ddaear, fel y’ch achubir: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall.’ Fel petai Duw yn dweud: ‘Mi wn am bob galwad sydd arnat, a’u bod yn amrywiol; ond yr wyf innau yn galw. Nid yw byd ond byd, na chnawd ond cnawd, na diafol ond diafol. Myfi sydd Dduw, ac nid neb arall.’
     Y mae rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar am y Gair yn ei awdurdod anorchfygol. Mi a ddymunwn o’m calon roi’r clod i gyd i Dduw’r Gair yn unig am fy nwyn a’m dal hyd yma, a bod y rhan sy’n ôl mewn parhaus gymundeb â Duw yn ei Fab, am na allaf byth ogoneddu mwy, na chymaint, arno na thrwy gredu a derbyn ei Fab. Help o’r nef i wneud hynny! – nid o ran fy mhleser fy hun yn unig, ond o barch iddo.
     Garedig frawd, nid oes nemor yn chwaneg ar fy meddwl i ymhelaethu, ond cofiwch lawer am Seion trwy’r byd, ond yn neilltuol eich hen fam yn y Bont, sydd â chysgodau’r hwyr bron â’i gorchuddio a phenwynni yn ymdannu drosti, ac mewn mesur bach yn gwybod hynny. Y gair yma sydd lawer ar fy meddwl i, ac eraill hefyd, wrth edrych ar ei drych llesg, anniben, digalon: ‘Ai hon yw Naomi?’ Ymdrechwch lawer â’r Arglwydd mewn gweddi yn ei hachos, fel corff o dystion dros Dduw yn y byd, am fod ei Enw mawr mewn mesur yn cael ei guddio ganddi yn ein gwrthgiliadau.
     Garedig frawd, mae’n dda iawn gennyf glywed eich hanes mewn perthynas i’ch gwaith newydd. Dwy ysgrythur a fu ar fy meddwl ar y mater, un: ‘Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae’r Brenin yn mynnu ei anrhydeddu’; a’r llall: ‘Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger fy mron – ond nid edrych Duw fel yr edrych dyn’, am hynny yr oedd yn rhaid cyrchu Dafydd.
     Bellach mi ddibenna’, gan ddymuned arnoch anfon ataf gyda brys.
     Wyf, eich annheilwng chwaer sy’n cyflym redeg i’r byd a bery byth,

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR VII

Ann Thomas at John Hughes


Garedig frawd,

     Cefais gyfleustra i anfon yr ychydig leiniau hyn atoch, i’ch gwneuthur yn hysbys fy mod wedi derbyn eich llythyr gyda charedigrwydd, ac i’ch annerch ag ufudd-dod i’r anogaeth oedd yn gynwysedig ynddo; ond nid hynny yn unig, ond y mae yn dda gennyf gael anfon fy helynt presennol atoch.
     Annwyl frawd, ni bûm i erioed yn ymddiddan yn bersonol nac mewn llythyr gyda golwg mor wael ar fy nghrefydd â’r tro hwn. Yr wyf yn cywilyddio wrth ddweud hyn oblegid fod fy ngolwg wedi bod cyhyd mor wahanol i’r gair hwn a dorrodd ataf gyntaf: ‘Wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, na ddichon neb ei gau: oblegid y mae gennyt ychydig nerth.’ Diolch i Dduw byth am gymeryd ei Air gwerthfawr yn ei law i’m trin! Rwyf yn parchus gredu mai felly y mae, ac o hynny hyd heno yr wyf yn meddwl fod yr ordd a’i hergyd i ryw raddau ar yr un gwreiddyn chwerwedd o hunan-dyb a’r balchder sydd yn fy mlino. Eto, datguddiwyd mwy o fy nghyflwr damniol imi ers ychydig nag erioed, a mwy o ogoniant y drefn ddoeth o gyfiawnhau’r annuwiol, a ‘Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag Ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau’.
     Dyma fy ngwaith yn aml wrth orsedd gras: rhyfeddu, diolch, a gweddïo. Rhyfeddu fod y Gair wedi cael ffordd rydd i drin cyflwr y fath adyn damniol, llygredig, llawn o bob twyll â myfi, heb fy lladd. Diolch am gyfreithlondeb y ffordd, ac am ei bod yn gogoneddu ei Hawdwr yn fwy nag am ei bod yn gwobrwyo ei thrafaelwyr. Yr wyf yn gweddïo am y fraint o gael y rhan sy’n ôl o’m dyddiau yn fywyd o ddelio â Duw yn ei Fab.
     Byddai yn dda iawn gennyf na chawn byth anturio cynnig i ddeddf sanctaidd Duw lai nag a’i bodlonodd, nid yn unig am na fyn hi ddim arall, ond o barch iddi. Nid adnabûm i erioed gymaint o barch a chariad i’r ddeddf, nid er ei bod yn melltithio, ond am ei bod yn melltithio ar bob tir allan o Gyfryngwr. Trwy hynny y mae hi yn dangos ei phurdeb.
     Garedig frawd, bu dda gennyf ddarllen llythyr fy mrawd a’m hannwyl gyfeilles, Sara Griffiths, ar eu hanogaethau gwerthfawr mewn perthynas i ddarllen y Gair. Ac yr wyf innau yn meddwl, pa beth bynnag a fo gennym mewn llaw heb y Gair, ein bod yn ‘gwario ein harian am yr hyn nid yw fara, a’n llafur am yr hyn nid yw’n digoni’, oblegid nid yw ystumog yr anian newydd yn dygymod â dim arall, a phob cleimat yn dwyn afiechyd i mewn ond awelon y cysegr yn unig.
     Mae y geiriau hyn o werth mawr yn fy ngolwg – ‘Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd; tarianau fil sydd yn crogi ynddo’ – yn wyneb bod yn noeth heb arfogaeth, ac yn ddinerth ohonom ein hunain i gyfarfod â’n gelynion. Os caf ddim ond troi i’r tŵr, mi gaf arfogaeth a nerth i redeg trwy ffydd ynddo Ef, canys ‘rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo Ef’. Gair arall sydd ar fy meddwl: ‘Gardd gaeedig yw fy chwaer, a’m dyweddi.’
     Annwyl frawd, mae rhwymau mawr arnaf pe medrwn ddweud yn dda am Dduw, ac i fod yn ddiolchgar iddo am ddim o gymundeb â chymdeithas y dirgelwch. Ond dyma fy ngofid: methu aros – parhaus ymadael. Rwy’n gweled fy ngholled yn fawr; ond y dianrhydedd a’r amarch ar Dduw sydd fwy. O! am hynny, help i aros. Mae y gair hwn wedi bod lawer ar fy meddwl: ‘Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros.’
     Garedig frawd, nid oes dim neilltuol yn chwaneg ar fy meddwl ond dymuned arnoch anfon eich meddwl ar y gair hwn: ‘Wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau.’
     Mae dwy ysgrythur arall ar fy meddwl mewn perthynas ei bod mor isel ar Seion y dyddiau hyn:
     1. ‘Pa fodd y t’w’llodd yr aur, yr aur coeth da!’
     2. ‘Pa fodd y mae tywysoges y taleithiau tan deyrnged!’
Mae rhyw arwyddion galarus fod Brigwynni wedi ymdaenu mewn mesur mawr dros Seion yn y dyddiau hyn a chysgodau yr hwyr bron â’i gorchuddio. Y mae rhwymau ar bob enaid deffrous ymdrechu llawer gyda’r Arglwydd, am iddo anfon ei wyntoedd ar ei ardd wywedig, ‘fel y gwasgarer ei pheraroglau’, fel y bo uffern a’i holl ddeiliaid yn colli eu hanadl gan rym yr arogl.
     Yn awr i ddibennu. Dymunaf arnoch fy nghofio ger gorsedd gras. Dymunaf arnoch anfon gyda’r cyfleustra cyntaf.
     A hyn oddi wrth eich annheilwng chwaer sy’n cyflym drafaelu trwy fyd o amser i’r byd a bery byth,

ANN THOMAS, Dolwar

Brig

 

LLYTHYR VIII

Ann Thomas at Elizabeth Evans

Anwylaf chwaer yn yr Arglwydd,

     Yn ôl eich dymuniad yr ysgrifenais yr ychydig leiniau hyn atoch, a da iawn gennyf gael cyfle i wneud fy helynt yn adnabyddus ichwi.
     Garedig chwaer, y peth mwyaf neilltuol sydd ar fy meddwl yn bresennol fel mater yw mewn perthynas i dristáu’r Ysbryd Glân. Gair hwnnw ’ddaeth i’m meddwl: ‘Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn demlau i’r Ysbryd Glân sydd yn trigo ynoch?’ Ac wrth dreiddio gronyn i mewn i ryfeddodau’r Person, a’i fod yn trigo neu yn preswylio yn y credadun, rwyf yn meddwl yn syml na chefais erioed fy meddiannu i’r un graddau ag ofnau parchus rhag ei dristáu; ac ynghyd â hynny cefais weld un achos, a’r achos Brignaf, o fod y pechod mawr hwn yn cael mor lleied o argraff wasgedig ar y meddwl, oherwydd fy meddyliau isel, cableddus am Berson mor fawr.
     Dyma oedd rhediad fy meddwl am Bersonau’r Drindod (rwyf yn clywed fy meddwl yn cael ei ddal â chywilydd, eto dan rwymau i ddweud oherwydd y niwed ohono): meddwl am Berson y Tad a’r Mab yn ogyfuwch; ond am Berson yr Ysbryd Glân, ei olygu fel swyddog islaw iddynt. O! feddwl dychmygol, cyfeiliornus am Berson dwyfol, hollbresennol, hollwybodol, a hollalluog i ddwyn yn y blaen a gorffen y gwaith da a ddechreuodd yn ôl trefn y cyfamod rhad a chyngor Tri yn Un ar ran gwrthrychau’r cariad bore. O! am y fraint o fod o’u nifer.
     Annwyl chwaer, rwyf yn teimlo gradd o syched am ddod i fyny yn fwy mewn crediniaeth am breswyliad personol yr Ysbryd Glân yn fy nghyflwr; a hynny trwy ddatguddiad, nid yn ddychmygol, gan feddwl amgyffred y dull a’r modd y mae, yr hyn sydd eilunaddoliaeth real.
     Annwyl chwaer, wrth edrych gronyn ar y pechadurusrwydd ynddo ei hun o dristáu’r Ysbryd Glân, ac o’r tu arall edrych i mewn i ddyfnderoedd y codwm mawr a fy mod wedi fy llwyr ddifeddiannu o bob gallu i ddim ond i’w dristáu, mae yn o wasgedig yn wir. Ond y gair yma sydd ar fy meddwl: ‘Gwyliwch a gweddïwch’; fel petai’r Arglwydd yn dweud, ‘Er mor hallt yw’r gorchymyn, a thithau mor analluog i gyflawni un peth o fil yn y fan yna, ar y tir yna, o ran dy feddwl, tyred i’r maes, tria di yr orsedd, canys llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn. Digon i ti fy ngras i: fy nerth i a berffeithir mewn gwendid.’ Diolch byth am Dduw yn llond ei addewidion!
     Annwyl chwaer, mi a ddymunwn ddweud llawer am rinwedd gweddi ddirgel, ond chwi a wyddoch fwy nag a allaf fi ddweud amdani; ond rwyf yn gwbl o’r farn ei bod yn rhagori llawer i wynebu gelynion ar fyddin o wŷr arfog. Mi a wn trwy brofiad am gael fy rowndio gan elynion na feddwn ddim i’w wneud ond hynny: ‘A minnau a arferaf weddi’; a hynny yn ateb y diben iddynt syrthio yn wysg eu cefnau. O! am y fraint o fod dan oruchwyliaethau manwl yr Ysbryd Glân. Rwyf yn meddwl yn syml na ffitia goruchwyliaeth lai manwl na’r gair hwnnw byth mo ’nghyflwr i: ‘Ar bob moment y dyfrhaf hi.’ Diolch byth am Feibl yn ffitio cyflwr wedi mynd mor ddyfn!
     Annwyl chwaer, rhyw fraint fawr yw bod cyflwr ar gael yn wyneb Gair Duw. O! am ei ddal yn y drych sanctaidd i’r diben i wneud iws o Gyfryngwr.
     Un peth neilltuol ar fy meddwl neithiwr mewn perthynas i ffeindio cyflwr yn y Gair. R. J. yn llefaru’n werthfawr iawn o ran mater, a minnau mor sych, mor bell o ran fy mhrofiad. Nid oedd na deddf nac efengyl yn gweithredu dim arnaf; a hynny a weithiodd fesur o ddychryn ar fy meddwl, ffaelu meddwl cael fy nghyflwr yn y Gair, o ran fod deddf ac efengyl megis yn ddi-fudd. Gair hwnnw ’ddaeth i’m meddwl: ‘Dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd’; a minnau yn ffaelu gweled ôl y praidd yn yr amgylchiad hwnnw. Ond y gair hwnnw ’ddaeth i’m meddwl gyda golau a gwres: ‘Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt.’ Diolch byth am graig y Gair i roi troed arni i gychwyn, a’r amhosiblrwydd o gychwyn heb hynny!
     Annwyl chwaer, rwyf yn gweled mwy o angen nag erioed am gael treulio y rhan sy yn ôl dan roi fy hun yn feunyddiol ac yn barhaus, gorff ac enaid, i ofal yr Hwn sy ‘yn abal i gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnnw’. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi’r tabernacl hwn heibio.
     Annwyl chwaer, mae meddwl am ei roi o heibio yn felys neilltuol weithiau. Gallaf ddweud mai hyn sydd yn fy llonni fwyaf o bob peth y dyddiau hyn – nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sydd i’w gael trwyddo: cael gadael ar ôl bob tueddiad croes i ewyllys Duw, gadael ar ôl bob gallu i ddianrhydeddu deddf Duw, bob gwendid yn cael ei lyncu i fyny gan nerth, cael cydymffurfiad cyflawn â’r gyfraith, yr hon sydd eisoes ar ein calon, a mwynhau delw Duw am byth.
     Annwyl chwaer, byddaf yn cael fy llyncu gymaint weithiau i’r pethau hyn fel ag y byddaf yn misio yn deg â sefyll yn ffordd fy nyletswydd gyda phethau amser, ond disgwyl am yr amser ‘i gael fy natod a bod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw’, er ei bod yma yn dda iawn trwy y dellt, a bod yr Arglwydd yn datguddio gymaint o’i ogoniant weithiau ‘trwy ddrych, mewn dameg’ a all fy nghyneddfau gweiniaid ei ddal.
     Annwyl chwaer, mae yn dda gennyf ddweud hyn wrth ddibennu (mi a ddymunwn ei ddweud gyda diolchgarwch): er fy holl lygredd, a dyfais uffern, byd a’i wrthrychau, rwy’ i o ddaioni Duw yn unig heb newid gwrthrych fy serch hyd heno, ond yn hytrach o galon am ‘ymlonyddu yn ei gariad ac ymhyfrydu ynddo byth dan ganu’, er nas caf hynny i’r graddau lleiaf tu yma i angau ond trwy drais.
     Annwyl garedig chwaer, dymunaf arnoch yn neilltuol anfon ataf gyda brys; na omeddwch fi; nis gallaf beidio â’i gymeryd yn angharedig arnoch os gwnewch. Mae Ruth yn dymuno ei chofio yn garedig atoch. Nid oes gennyf ddim neilltuol i’w anfon atoch fel newydd ond hyn, mae rhyw ysbryd gobeithio pob dim i weld arwyddion adferiad Rachel Pugh.
     A hyn oddi wrth eich caredig chwaer yn cyflym deithio trwy fyd o amser i’r byd mawr a bery byth.

ANN THOMAS

 

Er mai cwbl groes i natur yw fy llwybyr yn y byd,
ei deithio ’wnaf, a hynny yn dawel, yng ngwerthfawr
wedd dy wyneb-pryd; wrth godi’r groes ei chyfri’ yn goron,
mewn gorthrymderau llawen fyw; ffordd yn uniawn,
er mor ddyrys, i ddinas gyfaneddol yw.

Brig