jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

gan E. Wyn James

Cyhoeddwyd gyntaf yn Taliesin, 57 (Hydref 1986), tt. 8-19. ISSN 0049-2884.

Hawlfraint © E. Wyn James, 1986, 2009

Yn yr erthygl ddiweddaraf yn ei gyfres ddiddorol ar hynt a helynt yr anterliwt (‘Henaint a Thranc yr Anterliwt’, Taliesin, 54, Nadolig 1985), rhydd Mr G. G. Evans ychydig enghreifftiau o rai yn cael tröedigaeth a hynny’n peri iddynt roi heibio anterliwtio (t.26). Yna, â Mr Evans yn ei flaen i ddyfynnu hanesyn a adroddir gan John Hughes, Pontrobert, yn ei gofiant i Abraham Jones, Llanfyllin, sy’n sôn am Abraham Jones yn llwyddo i atal perfformio anterliwt yn Llanfyllin un dydd Llun y Pasg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy gyfrwng pregeth rymus.

Wrth nodi’r enghreifftiau o anterliwtwyr yn cael tröedigaeth – a’r rheini’n cynnwys yr emynwyr Methodistaidd adnabyddus, Hugh Jones, Maesglasau, ac Edward Parry, Llansannan – dywed Mr Evans y byddai ymchwilio i gofiannau a chyfrolau ar hanes ‘achosion’ crefyddol yn dwyn rhagor o enghreifftiau i’r rhwyd. Cyd-ddigwyddiad diddorol, o gofio fod Mr Evans yn ei ddyfynnu yn y paragraff sy’n dilyn y rhestr hon o enghreifftiau, yw fod y gweinidog a’r emynydd Methodistaidd, John Hughes, Pontrobert, yntau yn enghraifft o un a drodd ei gefn ar yr anterliwt yn sgil tröedigaeth.

John Hughes, Pontrobert

Brodor o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, yn yr hen sir Drefaldwyn, oedd John Hughes (1775–1854), a bu’n byw yn y cyffiniau ar hyd ei oes faith. Y mae yn fwyaf adnabyddus fel cyfaill a chofiannydd yr emynyddes Ann Griffiths, a bu’n ffigur dylanwadol iawn ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, yn enwedig yn ei sir enedigol. Fe’i ganed yn ardal Braich-y-waun, ychydig i’r gogledd o Eglwys Plwyf Llanfihangel, mewn bwthyn bach o’r enw ‘Y Figyn’. Digon tlawd fu ei amgylchiadau yn ifanc (ac yn wir, ar hyd ei oes). Adroddir hanesyn am y John Hughes ifanc yn actio mewn anterliwt yn ardal Cyffin, a’r Cybydd yn gofyn iddo ‘Pwy wyt ti?’ Atebodd gyda’r cwpled a ganlyn:

Bachgen wyf a fagwyd yn y Figyn,
A bara haidd, a hwnnw braidd yn brin.

Yn Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (1931), dywed Erfyl Fychan am chwaraewyr yr anterliwtiau mai ‘dynion heb addysg oeddynt, bechgyn rhyw blwyf neu ardal yn penderfynu dysgu anterliwd ac yna yn myned hyd y wlad i’w chwarae’ (t.131; a cf. Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif, gol. Dyfnallt Morgan, 1966, tt.147–8). Mae’n wir mai ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd John Hughes. Yn ei eiriau ef ei hun: ‘Cefais beth ysgol hynod o wael. Dysgais ddarllain Saesnaeg heb ddeall dim ohono, a phan ddysgais ddarllain Cymraeg, ni wnais sylw o’r Saesnaeg am lawer blwyddyn.’ Mae’n wir hefyd mai wedi ei dröedigaeth yr aeth ati o ddifrif calon i’w addysgu ei hun. Er enghraifft, dywed yn nes ymlaen yn yr un darn hunangofiannol mai ychydig amser wedi iddo ddechrau pregethu yn 1802 yr ymegnïodd ‘i ddysgu deall yr iaith Saesnaeg, yr hon trwy lafur a ddeuais i’w deall yn weddol, er na fedraf areithio dim ynddi’. Ond nid yn hollol ddiaddysg mohono ychwaith yn ei gyfnod fel anterliwtiwr. Gwelir o’r dyfyniadau uchod, er enghraifft, ei fod wedi dysgu darllen Cymraeg, a bod ganddo rywfaint o grap ar y gynghanedd. Dwy o nodweddion amlycaf ei fywyd wedi ei dröedigaeth oedd ei awydd am addysg a’i weithgarwch barddonol, ac er eu bod yn cael eu sianelu i gyfeiriadau braidd yn wahanol, gwelir yr un nodweddion yn union yn dod i’r golwg yn ei gymeriad cyn ei dröedigaeth.

Mae’n amlwg fod cryn adfywiad llenyddol yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym mlynyddoedd ieuenctid John Hughes. Wrth ddisgrifio’r ardal honno ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, dywed John Morgan, Yr Wyddgrug, fod yno ‘y pryd hyny ryw awyr o farddoniaeth yn rhedeg trwy bobpeth, a phawb yn teimlo oddiwrth ei hysbrydiaeth’ (Y Drysorfa, 1898, t.360). Gellir enwi nifer o feirdd gwlad a ffynnai yn yr ardal yn y cyfnod, dynion megis Harri Parri (1709–1800) o Graig-y-gath ac Evan Williams, clochydd Eglwys Llanfihangel. Nid nepell i ffwrdd, wedyn, yn Llangadfan, yr oedd yr hynafiaethydd radical a’r bardd, William Jones (1726–95), Dôl Hywel.

Rhwng y cwbl, felly, nid yw’n annisgwyl gweld y John Hughes ifanc, yntau, yn troi ei law at brydyddu. Anfonodd awdl ar y testun ‘Rhyfel’ i Eisteddfod y Gwyneddigion yn Nolgellau yn 1794, ac un arall ar yr un testun (yr un awdl?) i’w heisteddfod yn y Wern, Penmorfa, Eifionydd y flwyddyn ddilynol. Ysywaeth, ni fu’n llwyddiannus iawn. Barn y beirniaid yn 1794 (a William Jones, Dôl Hywel, yn eu plith) ar waith y pedwar cystadleuydd oedd eu bod oll ‘yn dra beius’, a bu dyfarniad tebyg yn 1795. Teg yw casglu felly, er ei awydd, nad un yn disgleirio fel bardd mo’r John Hughes ifanc!

Parhaodd i ganu rhyw gymaint ar y mesurau caeth ar hyd ei fywyd. Gwelais ychydig ddarnau ganddo ar fesur cywydd a rhyw ddwsin o englynion. Ond mae’n rhaid cyfaddef nad yw yn gynganeddwr o’r radd flaenaf. Ar gyfartaledd, mae un o bob chwe llinell ganddo yn wallus ei chynghanedd, ac mae’r mynegiant yn y cerddi caeth yn ddigon trwsgl yn aml. Ac eto yn eu plith ceir hefyd, yn fy marn i, beth o gynnyrch barddonol gorau John Hughes, megis yr englyn hwn am Iesu Grist a ysgrifennwyd tua’r flwyddyn 1800:

Ffynnon a gawson o gysur – ’n y brawd
A briododd ein natur;
Mae fe’n briod parod pur,
A cheidwad i bechadur.

Ar wahân i’r cwpled (byrfyfyr?) o’r anterliwt a ddyfynnwyd uchod, dim ond un darn arall o waith barddonol John Hughes sydd wedi goroesi o’r cyfnod cyn ei dröedigaeth (hyd y gwn i), sef englyn ar agoriad Neuadd y Dref yn Llanfyllin, a adeiladwyd yn 1791 ac a gynhwysai farchnad o fewn ei muriau (gw. D. Alun Lloyd, Gwinllan fy Hynafiaid, 1968, t.45):

Dadldy i brynu i’n bob rhaid – fuddiol
A fyddo anghenraid.
Lluniaeth, bywoliaeth heb baid,
Perthynol – ond porth enaid.

Yr oedd yr anterliwt yn perthyn i’r un cylchoedd diwylliannol â’i gynnyrch barddonol cynnar. Mae’n amlwg o’r cwpled o’i eiddo a ddyfynnwyd uchod fod John Hughes yn actio mewn anterliwtiau, a cheir sôn amdano’n cyfansoddi rhai ei hun hefyd. Dyma a ddywed cylchgrawn Y Methodist ar y mater mewn ysgrif goffa iddo yn 1854 (t.86):

Amlygodd radd o athrylith yn ieuanc iawn. Arferai, er yn fachgen, gyfansoddi ambell i rigwm; ac yr oedd yn lled fedrus ar actio interlutes, yr hyn a wnaeth yn fynych. Er ei fod yn fachgen gwyllt, cafodd ei gadw rhag tyngu, a rhag arfer geiriau masweddol, a rhag pechodau rhyfygus eraill; ond er hyny nid oedd a fynai nemawr â gwrando yr efengyl.

A dyma sydd gan Evan Davies, Trefriw, i’w ddweud ar y pwnc (Cymru, cyf. 30, 1906, t.327):

Yr oedd tuedd ynddo er yn fore at brydyddu, a chyfansoddodd rai ysmalwawdiau (interludes) yr adeg honno, a bu bechgynos tebyg iddo ei hun yn chwareu y rhai hyn, yn fwy er mwyn difyrrwch nag elw.

Ond daeth tro ar fyd. Bu adfywiad arall yn ardal ei gartref yn nawdegau’r ddeunawfed ganrif – un crefyddol – a bu John Hughes yn gyfrannog o hwnnw hefyd. Daeth amser pryd y mynnai wrando’r efengyl, ac o’i chlywed, cafodd dröedigaeth. Yn haf 1796 y bu hynny, a daeth yn aelod gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn fuan wedyn. Newidiwyd cyfeiriad ei fywyd yn llwyr, a gwelir hynny yn amlwg yn ei newid agwedd tuag at yr anterliwt. ‘Chwareuyddiaeth gwageddus, ac ynfyd’ ydyw yn ei olwg erbyn iddo ysgrifennu ei gofiant i Abraham Jones yn 1840. Dyma enghraifft arall, felly, o’r hyn a eilw Mr G. G. Evans ‘yr archoll fwyaf tyngedfennol a gafodd yr anterliwt, sef colli’i hysgrifenwyr i gyfryngau mynegiant eraill’.

Twm o’r Nant
Digon gwrthwynebus i Fethodistiaeth newydd John Hughes fyddai ei gydnabod yng nghylchoedd y Gwyneddigion ac ymhlith cynheiliaid yr hen ddiwylliant gwerinol. Cyhoeddodd Harri Parri, Craig-y-gath, er enghraifft, englynion ar y testun ‘Ceryddiad difrifol i’r Methodistiaid’ yn almanac Gwilym Howell yn 1774, a bu William Jones, Dôl Hywel, yntau, yn defnyddio ei awen i chwipio’r Methodistiaid. Yn ei thraethawd buddugol yn Eisteddfod Powys 1972 ar hanes cymdeithasol plwyfi Garthbeibio, Llangadfan a Llanerfyl, dyfynna Lona Gwilym ran o gerdd gan William Jones yn ymosod ar y seiadwyr Methodistaidd a oedd yn ‘dwad […] i deios / I gadw’u nâd gwedi nos’ (ac yn eu plith, mae’n debyg, brawd Abraham Jones, Llanfyllin – ‘John Jones y Neidiwr’, fel y gelwid ef). O gofio hyn, doniol yw darllen i William Jones, Dôl Hywel, fethu cael llety yn Rhuthun rywdro am ei fod yn ymddangos yn rhy debyg i bregethwr Methodist! O’i ran yntau hefyd, newidiodd John Hughes ei gylchoedd cymdeithasol a diwylliannol. Ymwrthododd yn llwyr â’r anterliwt ac â gweithgarwch cyffelyb, er iddo, fel y nodwyd uchod, barhau i ganu rhyw gymaint ar y mesurau caeth a ddysgodd yn ei ieuenctid digrefydd.

Un o’r eithriadau mawr yng nghylchoedd yr anterliwt yn ei agwedd tuag at y Methodistiaid, yn rhyfedd ddigon, oedd y pen-anterliwtiwr ei hun, Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1739–1810). Yn ddiddorol iawn yn y cyd-destun presennol, bu ef yn byw yn Nolobran, gerllaw Pontrobert, am gyfnod byr yn 1779. Croesodd gleddyfau barddol ag Evan Williams y clochydd a Harri Parri (cyhoeddwyd cerddi ymryson rhwng Twm a’r clochydd yn Cymru, cyf. 34, 1908, tt.216–17); ac yn ôl Dr Enid Pierce Roberts, ‘Dangosir yn Hen Dafarn, Pontrobert, y setl a ddefnyddid ganddo fel llwyfan [i chwarae anterliwt arni], a’r ddolen haearn ynddi lle byddid yn ei bachu â chadwyn wrth goeden rhag i’r gwrandawyr ei dymchwel’ (Braslun o Hanes Llên Powys, 1965, t.72; cf. Y Ferch o Ddolwar Fach, gol. Dyfnallt Morgan, 1977, t.6). Cyn hir aeth am y De, i Ddyffryn Tywi, gan symud yn ôl i’w hen gynefin yn Nyffryn Clwyd yn 1786.

Bu gan Twm rywfaint o gysylltiadau Methodistaidd o gyfnod eithaf cynnar yn ei fywyd. Ysgrifennai anterliwtiau a pherfformio ynddynt er yn gynnar iawn. Ond tua 1760, rhoddodd y gorau i anterliwtio, gan daflu ei gap cybydd i afon Conwy, ‘oblegid euogrwydd cydwybod, a hefyd fy mod yn caru merch ag oedd yn tueddu at grefydd’; ac adeg ei marw yn 1808 yr oedd y ferch honno, gwraig Twm o 1763 ymlaen, yn aelod gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn Ninbych.

Hwyrach nad cyd-ddigwyddiad ydyw mai 1759 yw dyddiad y garol blygain gyntaf o eiddo Twm sydd gennym ar glawr, sef yr union gyfnod y trodd ei gefn ar yr anterliwt. Mae nifer o garolau a ysgrifennwyd ganddo yn y chwedegau cynnar wedi goroesi mewn llawysgrif, a diddorol hefyd yw gweld Twm yn 1764 yn cyhoeddi cyfieithiad digon ystwyth o lyfr crefyddol, Y Perl Gwerthfawr, ar y cyd ag Edward Parry, Llansannan, a David James, un o ysgolfeistri Griffith Jones, Llanddowror – llyfr yr oedd nod efengylu pendant y tu ôl i’w gyhoeddi, fel sy’n amlwg o’r anogaethau taer ynddo i anghredinwyr gofleidio’r efengyl Gristnogol. Ond y mae’r carolau fel petaent yn prinhau wrth nesu at ganol y degawd. Yna, yn 1766, oherwydd problemau ariannol, mae Twm yn troi yn ôl at yr anterliwt er mwyn ychwanegu at ei incwm. O hynny hyd 1769 cyfansoddai anterliwtiau yn rheolaidd, a’r rheini heb fod ymhlith ei gyfansoddiadau mwyaf llednais. Ond, er hynny, pwysleisia Dr Glyn Ashton fod Twm yn ei waith yn wahanol i weddill yr anterliwtwyr ‘yn gymaint ag nas ceir ef yn rhedeg ar y Methodistiaid’.

Rhoddodd y gorau i’r anterliwt unwaith yn rhagor tua 1770, a hwyrach eto nad yw’n gyd-ddigwyddiad ei fod (fe ymddengys) yn ailgydio yn y garol blygain tua’r un adeg, a’r rheini’n amlhau wrth i’r saithdegau dynnu i’w terfyn. Dengys ei garolau fod gan Twm ddealltwriaeth glir o brif fannau’r ffydd Gristnogol. Dangosant hefyd ei fod yn bur gyfarwydd â’i Feibl, a gwelir yr un cynefindra â’r Ysgrythur yn ei anterliwtiau (gweler, er enghraifft, y rhestr helaeth o gyfeiriadau ysgrythurol yn ei anterliwt Tri Chryfion Byd a nodir gan David Thomas yn Yr Eurgrawn, cyf. 131, 1939, tt.108–13, 145–9). Ond ceir mwy na gwybodaeth foel ynddynt hefyd, oherwydd nid yw Twm byth yn bodloni yn ei garolau ar adrodd ffeithiau’r ffydd yn unig – ‘Nid hanes CRIST fel hên Histori, / A wna’n bresennol fawr lês ini’, meddai yn un ohonynt – ac, yn Fethodistaidd ddigon, pwysleisia’n gyson ynddynt yr angen am adnabyddiaeth bersonol o’r Crist byw. Anogir ei wrandawyr i fod yn wahanol i drigolion Bethlehem gynt a rhoi llety i’r Iesu, sef lle yn eu calonnau.

Ceir bwlch o dros bymtheng mlynedd yn ei gyfansoddi anterliwtiau. Ond wedi iddo ddychwelyd o’r De ‘estron’ i wlad yr anterliwt yn 1786, fe welir Twm o’r Nant yn ailgydio yn y grefft – a hynny unwaith eto am resymau ariannol. O gymharu’r anterliwtiau a gyfansoddwyd wedi iddo ddychwelyd o’r De a’r rhai cynharach, gwelir fod dylanwad crefydd yn llawer mwy amlwg ar waith Twm erbyn diwedd yr wythdegau. Fel y noda Mr G. G. Evans, mae’r iaith fras a’r cyfeiriadau anllad wedi lleihau erbyn anterliwtiau’r cyfnod hwn, a’r dadleuon moesol a’r anogaethau duwiolfrydig wedi cynyddu.

Y dylanwad pwysicaf arno yn y cyfeiriad hwn, yn ôl pob sôn, oedd ei wraig o Fethodist. Ond gellir nodi rhai pethau eraill a gyfranasai at y newid ym mlynyddoedd y bwlch. Un digwyddiad, heb os, a fu’n gyfrwng i’w ddifrifoli’n ysbrydol oedd y waredigaeth ryfeddol a gafodd adeg damwain ddifrifol wrth bont Rhuddlan tua 1778 (gweler y gân a ganodd i’r achlysur hwnnw, a gynhwysir yn ei gasgliad, Gardd o Gerddi); a chafodd waredigaeth ryfeddol arall tra oedd yn llwytho pren yng nghoed Maes-y-plwm. Dichon hefyd fod ei arhosiad yn awyrgylch mwy Methodistaidd sir Gaerfyrddin yn ystod yr wythdegau wedi chwarae rhan yn y newid (gw. Bobi Jones, I’r Arch, 1959, tt.61–2). Mae’n ddiddorol nodi mai yng ngwasg Trefeca yr argraffwyd unig gyfrol barddoniaeth Twm, Gardd o Gerddi (1790) – ‘un o lyfrau pwysicaf a mwyaf arwyddocaol y ganrif’, yn ôl Dr Glyn Ashton – ac mae’n amlwg ei fod yn cael croeso yn Nhrefeca, gan fod ym meddiant Twm gopi o salmau Edward Kyffin, a gafodd pan oedd ar ymweliad yno gan un o ‘deulu’ Methodistaidd Trefeca a oedd yn frodor o sir Ddinbych.

Ond beth bynnag oedd yr union resymau ac amgylchiadau, mae’n wir dweud i Twm gael ‘ei dynnu fel yr heneiddiai yn nes bob blwyddyn at y Methodistiaid’ (chwedl Mr G. G. Evans). Ac ymddangosiad cyhoeddus olaf Twm cyn ei farw oedd yng nghapel y Methodistiaid yn Nhremadog adeg ei agor yn Chwefror 1810, ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth. Thomas Charles a arweiniai wasanaeth y bore yn ei wenwisg glerigol, gan ddarllen gwasanaeth yr eglwys wladol cyn traddodi pregeth yn Saesneg ‘gan nad faint oedd yn ei ddeall ac yn cael bendith’ (Cymru, cyf. 45, 1913, t.160; ar yr achlysur gweler hefyd Gomer M. Roberts (gol.), Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, cyf. 2, 1978, tt.367–8, a’r Casglwr, Nadolig 1985, t.2). Yn y sêt fawr, cafwyd rhes o hoelion wyth yr Hen Gorff – John Elias, Michael Roberts, Pwllheli, a’i dad, John Roberts, Llangwm, John Jones, Edern, Robert Jones, Rhos-lan, Evan Richardson, Caernarfon, a John Jones, Tremadog – ynghyd â rhoddwr y tir, W. A. Madocks, ac wrth ei ochr, Twm o’r Nant.

Ond, er iddo nesu o flwyddyn i flwyddyn at y Methodistiaid (ac ymuno â hwy yn swyddogol ychydig cyn diwedd ei oes, yn ôl y sôn), ni fyddai’n iawn meddwl am Twm o’r Nant fel Methodist ychwaith. Er cael ei dynnu atynt, ni fynnai ymryddhau o’i hen lwybrau yn llwyr. Ar un olwg, mae disgrifiad R. Williams Parry o A. E. Housman, ‘Nid eistedd gyda’r union-gred, / Na chyda’r anghred ynfyd’, yn un cymwys iddo yntau hefyd. Perthyn Twm i ddau draddodiad, i ddau fyd yn wir, heb berthyn i’r naill na’r llall yn iawn. Deufor-gyfarfod dau ddiwylliant a dwy ffordd o feddwl yw Twm o’r Nant, sef hen fywyd gwerinol y ddeunawfed ganrif a’r bywyd crefyddol newydd angerddol yr oedd gwerin Cymru yn ei gofleidio wrth y cannoedd.

Roedd ei sefyllfa yn rhwym o greu tyndra ac anesmwythyd iddo ef ei hun ac i’w gydnabod o’r ddwy ochr. Parhaodd i gyfeillachu â’r beirdd ar hyd ei oes, ac i ymdroi yng nghylchoedd y Gwyneddigion. Ond yr oedd y rheini, fel y gellid disgwyl, yn anesmwytho’n fawr oherwydd ei dueddiadau Methodistaidd. Ys dywedodd Jac Glan-y-gors yn 1798: ‘Mae’r Beirdd y’mron wylo, weled eu Hathro [Twm] / Yn cym’ryd ei d’wyso gan y Methodistied.’ Nid ymwrthodai Twm â’r anterliwt ychwaith, fel y gwnaeth John Hughes, Pontrobert, a’i gyd-Fethodistiaid; ond ar yr un pryd (fel y nodwyd uchod) newidiwyd naws ei waith, ac ymddengys ei fod yn ei ystyried ei hun yn cyflawni swyddogaeth efengylu o fath ynddynt – cofier ei sylw enwog wrth Thomas Charles (adeg un o’u cyfarfyddiadau lled fynych yn siop Robert Llwyd yn Rhuthun): ‘Mr Charles, edrychwch chwi ar ôl y defaid; mi edrychaf innau ar ôl y bleiddiaid’ (gw. Gwaith Thomas Edwards (Twm o’r Nant), gol. Isaac Foulkes, 1889, t.xxii, a D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, cyf. 2, 1908, tt.387–8). Ac mae’n siŵr i waith Twm a’i ddylanwad fod yn gyfrwng i leddfu rhagfarnau gwrth-Fethodistaidd ymhlith y werin bobl.

Achlysur y sylw uchod, mae’n debyg, oedd anesmwythyd Thomas Charles ynghylch ymosodiad di-flewyn-ar-dafod Twm yn 1802 ar feirniaid y Methodistiaid. Gwelir yr un math o anesmwythyd yn union yn y sgwrs a gofnodir rhwng Twm a Robert Roberts, Clynnog, ar ymweliad y pregethwr enwog hwnnw â Dinbych tua 1798, ynghyd â’r un math o ateb yn union gan Twm (gw. William Rees, Adgofion Hiraethog am y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, 1903, tt.81–4). Ond ar yr un pryd, mae awydd mawr Robert Roberts i gael sgwrs â Twm, a’r ‘gyfeillach siriol a difyrus iawn’ a fu rhyngddynt y tro hwnnw, yn enghraifft dda o’r parch mawr y delid ef ynddo gan yr arweinwyr Methodistaidd yng nghanol eu hanesmwythyd. Dichon fod sylw lliwgar Daniel Owen yng ngenau Mari Lewis, ymhen blynyddoedd wedyn, yn crynhoi agwedd y Methodistiaid yn gyffredinol tuag at Twm o’r Nant: ‘Er nad oedd Tomos y peth y dylase fo fod, yr oedd o yn ei hitio hi yn o lew’. (Ar Twm o’r Nant a’r Methodistiaid, gweler traethawd MA Dr Glyn M. Ashton a’i olygiad ef o Hunangofiant a Llythyrau Twm o’r Nant. Mae’n werth darllen hefyd yn y cyd-destun hwn stori fer awgrymog R. Williams Parry, ‘Hen Eisteddfod’, yn Rhyddiaith R. Williams Parry, gol. Bedwyr Lewis Jones.)

Yn ei erthygl werthfawr ar ‘Yr Anterliwt Gymraeg’ yn Llên Cymru yn 1953, dyfynna Mr G. G. Evans sylw gan un o gybyddion yr anterliwtiau i’r perwyl mai dau beth yn unig a allai dynnu tyrfa fawr yng Nghymru’r ddeunawfed ganrif, sef y Methodistiaid a’r anterliwt. Dyma’r ddau begwn a gydiai yn nychymyg y bobl. Ond mae’n werth nodi hefyd sylw craff J. T. Jones ‘nad oedd yn bosibl i ddau fudiad mor annhebyg [â’r anterliwt a Methodistiaeth] gyd-flodeuo. Y mudiad Methodistaidd a orfu. Troes yr arch-interliwdiwr ei hun “at grefydd,” a chollodd flas ar “chwarae plant.” Aeth y Diwygiad â’r gwynt o hwyliau yr Interliwd. Symudodd drama Cymru o’r llwyfan i’r pulpud, ac yno’r arhosodd am ganrif gyfan’ (Yr Eurgrawn, cyf. 131, 1939, t.373).

Ann Griffiths

Soniwyd eisoes am y diddordeb mewn barddoniaeth a fodolai yn ardal Llanfihangel yn ystod ieuenctid John Hughes, Pontrobert. Mae Morris Davies yntau yn sôn am y bri a oedd ar farddoni yno: ‘Byddai hen drigolion Llanfihangel yn ymddifyru llawer mewn gwneyd ac adrodd englynion, cywyddau, ac awdlau, a chanu cerddi a charolau. Harri ap Harri, o Graig y Gath, oedd eu hathraw prydyddol yn yr oes dan sylw; a mynych y byddai efe, ei ddysgyblon, a’i gydnabyddiaeth, yn anerch eu gilydd ar gynghanedd ddifyfyr’ (Cofiant Ann Griffiths, 1865, t.18). Prin bod angen nodi hefyd mai’r ardal hon a’r dyffrynnoedd cyfagos yw cadarnle’r carolau plygain; ac er bod i bob llan ei dydd plygain ei hun, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa y cynhelid ‘y Blygien Fawr’ ar yr ail Sul yn y flwyddyn newydd, a phawb yn tyrru yno. Mae’n ddiddorol nodi hefyd mai un o gyfoedion John Hughes o blwyf Llanfihangel, Thomas Williams (‘Eos Gwnfa’; c. 1769–1848), yw un o’r mwyaf adnabyddus a chynhyrchiol o blith awduron y carolau hyn.

Bu un arall o drigolion y plwyf, yr emynyddes Ann Griffiths (1776–1805), hithau yn anadlu’r un awyr ddiwylliannol â’i chyfaill, John Hughes. Perthynai ei thad, Siôn Ifan Tomos, i gylch disgyblion barddol Harri Parri. Yng nghasgliad Cwrt Mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir llawysgrif drwchus o farddoniaeth – ‘Llyfr Dolwar Fach’ – a fu’n eiddo i Harri Parri, ond a aeth i feddiant teulu Dolwar erbyn 1796. Cymysgedd o waith beirdd lleol a gwaith beirdd mwy adnabyddus megis Huw Morys ac Edward Morris o’r Perthillwydion sydd yn y gyfrol, ac yn eu plith englynion gan Twm o’r Nant; ac y mae’r gyfrol yn ddrych da o’r diwylliant y magwyd Ann Griffiths ynddo.

Mae o leiaf bedwar englyn o waith tad Ann wedi goroesi i’n dydd ni, ynghyd ag un englyn y dywedir iddo gael ei gyfansoddi gan Ann ei hun, a hithau yn ddim ond tua 10–12 oed ar y pryd (fe’u cyhoeddwyd gan Morris Davies yn Cofiant Ann Griffiths, 1865, tt.17, 19). O’r dystiolaeth sydd ar gael, felly, gellir dweud amdani hi fel am John Hughes, fod ‘tuedd ynddi er yn fore at brydyddu’. Yn wir, y fagwraeth hon mewn awyrgylch barddonol yw un rheswm a gynigir am y ffaith i Ann ddewis mynegi ei phrofiadau ysbrydol ar gân yn ddiweddarach yn ei bywyd.

Perthynai Ann hefyd, fel John Hughes, i fyd yr anterliwt a gweithgareddau cymdeithasol cyffelyb. ‘Dilyn y ddawns’ a drwgdybio Ymneilltuwyr a Methodistiaid oedd ei hosgo hi, fel gweddill ei theulu, a’i chymdogion yn gyffredinol. ‘Dacw y pererinion yn myned i Mecca’, meddai’n wawdus am y Methodistiaid ar eu ffordd i Sasiwn y Bala. Dyma sydd gan Methodistiaeth Cymru (cyf. 2, 1854, t.411) i’w ddweud wrth ddisgrifio cyflwr ysbrydol cylch y Sarnau ym mhlwyf Llandrinio – ardal rhieni Ruth Evans (morwyn Dolwar Fach, a gwraig John Hughes, Pontrobert) – yn nyddiau ieuenctid Ruth:

Yr oedd nosweithiau chwareu, canu a dawsio, chwareu cardiau ac Interludiau yn eu llawn rym. Cedwid y rhai olaf a enwyd, nid yn unig gerllaw y tafarnau, ond yn fynych mewn tai amaethwyr yn y gymydogaeth. Arferid unwaith yn y flwyddyn, ar ryw ddiwrnod penodol, ymofyn am arth i’w faeddu, a mawr fyddai y difyrwch a fwynheid yn yr oferedd creulawn hwn. Yr oedd yr ŵylmabsant hefyd yn ei llawn rym, a’i llygredigaethau cethin yn parhau dros amryw ddyddiau.

A digon tebyg oedd pethau ym mhlwyf cyfagos Llanfihangel-yng-Ngwynfa, gyda merch fywiog Dolwar Fach yn chwarae rhan ddigon amlwg yn y cwbl.

Ond daeth y tro tyngedfennol yn hanes Ann yn 1796, y flwyddyn y cafodd John Hughes yntau dröedigaeth. Un o brif ffeiriau’r flwyddyn yn Llanfyllin oedd y ffair a gynhelid ar y dydd Mercher cyn y Pasg – er y byddai’r rhialtwch a gysylltir â ffeiriau o’r fath yn ymestyn dros wyl y Pasg ei hun hefyd. Ar ddydd Llun y Pasg 1796, a hithau bron yn ugain oed, aeth Ann i ymuno yn y rhialtwch yn Llanfyllin. Aeth yno ‘mewn bwriad i ddawnsio’, yn ôl John Hughes, ac mae’n bosibl iawn fod gwylio anterliwt yn rhan o’r difyrrwch arfaethedig hefyd, o gofio i Abraham Jones weld pobl yn perfformio anterliwt o fewn llai na milltir i dref Llanfyllin ar ddydd Llun y Pasg ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

Roedd gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin wedi sefydlu cyfres o ‘Gyfarfodydd y Pasg’ i geisio gwrthweithio dylanwad y ffair. Ar y dydd Llun hwnnw, roeddynt wedi trefnu cyfarfod awyr-agored y tu allan i Westy’r Goat (y ‘Cain Valley Hotel’ yn ddiweddarach), gyda’r Parch. Benjamin Jones, Pwllheli, yn bregethwr gwadd. Arhosodd Ann i wrando, a chafodd ei bregeth y fath argraff arni nes peri iddi benderfynu ‘ymofyn am grefydd, yn lle dilyn gwagedd’ (chwedl John Hughes). Crynhoir tystiolaeth Ann mewn nodyn a ysgrifennodd ymhen dwy flynedd, ym Mai 1798, o dan enw Benjamin Jones mewn cyfrol o’i waith a oedd yn ei meddiant: ‘O fendigedig was ei Dduw dangosodd imi lwubr bywud. Arweuniodd fi at fy Ngwaredwr anwul. Diolch buth’ (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, cyf. 41, 1956, tt.25–6). O hynny allan, ymwrthod â byd yr anterliwt fu hanes Ann, fel John Hughes yntau. Ymunodd â’r ‘pererinion’, a thyfu’n ffigur mor amlwg yn eu plith ag a fuasai cyn hynny yng nghylchoedd y dafarn a’r ddawns.

Nid yn unig y bu newid yn Ann, ond daeth y rhan fwyaf o’i theulu agos, gan gynnwys ei thad, i gofleidio’r un olygwedd ysbrydol. Yng nghyd-destun y teulu, mae’n werth crybwyll efallai fod yr Abraham Jones y soniwyd amdano uchod yn frawd-yng-nghyfraith i Ann Griffiths. Yn 1807, ddwy flynedd wedi marw Ann, symudodd i fyw i Lanfyllin trwy briodi Jane, chwaer Ann, gwraig weddw a gadwai siop yn y dref. Er nad oedd ymhlith rhengoedd blaen pregethwyr y Methodistiaid, hwyrach fod disgrifiad Mr G. G. Evans o Abraham Jones fel ‘pregethwr digon dinod’ yn mynd ychydig yn rhy bell. Roedd yn ffigur digon amlwg ymhlith Methodistiaid ei ddydd, yn enwedig yn sir Drefaldwyn, a bu’n gydymaith i John Elias (gelyn arall i’r anterliwt, ond yn un a soniai am athrylith Twm o’r Nant ‘gydag edmygedd’) ar lawer taith bregethu ar hyd a lled y wlad. Brodor o Drefeglwys ydoedd, ac mae’r ffaith fod John Hughes, Pontrobert, yn dweud mai’r achlysur yn Llanfyllin oedd y tro cyntaf i Abraham Jones weld anterliwt yn cael ei pherfformio, yn tanlinellu’r ffaith nad oedd anterliwtio mor gyffredin yn y parthau hynny ag ydoedd ym mharthau mwy gogleddol sir Drefaldwyn.

Cyfeiria Mr G. G. Evans yn ei erthygl yn Taliesin at un Richard Newell, gŵr amlwg gyda’r Methodistiaid a fu’n erlid anterliwtwyr yn frwd yn rhinwedd ei swydd fel un o gwnstabliaid sir Drefaldwyn. Roedd ganddo yntau hefyd berthynas deuluaidd ag Ann Griffiths, gan fod ei wraig Elizabeth (a briododd yn 1811) a gŵr Ann yn frawd a chwaer. Ond yn 1960, mewn llythyr at David Thomas, golygydd Lleufer, oddi wrth y gweinidog a’r cerddor, O. T. Davies (‘Owain Ddu’; 1876–1969), Y Rhyl, y ceir yr awgrym mwyaf diddorol ynghylch perthynas teulu Ann â’r anterliwt. Yn ei lythyr, dywed Mr Davies (a fu’n weinidog yng nghapel y Methodistiaid yn Llanfyllin rhwng 1912 ac 1948 – gw. yr ysgrif goffa iddo yn Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd am 1970, t.276) – iddo gael llawer o hanes teulu Ann oddi wrth ei fam-yng-nghyfraith, Mrs Elizabeth Vaughan. Priododd hi a’i gŵr, Abel, yn Lerpwl, a buont yn byw yn Llundain wedi hynny; ond dau o Ddyffryn Clwyd oeddynt yn wreiddiol. Yn ôl Mrs Vaughan, roedd ei thad – Thomas Edwards, Bryn-glas, Nantglyn – yn gefnder i Twm o’r Nant. Ond honnai Mrs Vaughan ei bod hi’n perthyn, nid yn unig i Twm, ond hefyd i Ann Griffiths. Awgryma O. T. Davies, yng ngoleuni hynny, mai’r rheswm yr aeth Twm o’r Nant i ardal Llanfihangel am gyfnod (a chael lle i’w geffylau ym Melin Pontrobert, yn ôl a glywodd Mr Davies) oedd oherwydd ei gysylltiadau teuluaidd yn y cylch. (Awgrymir hefyd yn y llythyr fod Ann ei hun wedi symud i fyw o Ddyffryn Clwyd i Ddolwar Fach, ond mae’n amlwg fod hynny’n anghywir, gan iddi gael ei geni yn Nolwar, a gwreiddiau ochr ei thad o’r teulu, o leiaf, yn bur ddwfn yn naear plwyf Llanfihangel.) Hyd yma, nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw beth pellach i gadarnhau fod perthynas rhwng Twm ac Ann; a phetai rhywun yn gallu taflu unrhyw oleuni ar y mater, byddwn yn hynod falch o glywed ganddynt.

Llwyddodd David Thomas yn ei waith ymchwil manwl i deulu Ann Griffiths (y cyhoeddwyd ei ffrwyth yn y gyfrol Ann Griffiths a’i Theulu yn 1963), i ddangos fod teulu Ann yn ymgysylltu, ymhlith eraill, â theuluoedd Samuel Roberts (Llanbryn-mair), Thomas Charles ac O. M. Edwards. Byddai’n braf cael ychwanegu teulu Twm o’r Nant at eu nifer!

[Ceir trafodaeth fanylach ar rai o’r materion uchod yn E. Wyn James, ‘Ann Griffiths: Y Cefndir Barddol’, Llên Cymru, 23 (2000), tt. 147-70. ISSN 0076-0188.]